Gleision yn drydydd; Dreigiau'n colli

Image copyright Huw Evans picture agency

Gleision 34-18 Treviso

Roedd Jamie Roberts ymysg y sgorwyr wrth i'r Gleision ennill ym Mharc yr Arfau am y tro cynta'r tymor hwn i godi i'r trydydd safle yng nghynghrair y Pro 12.

Roedd Dan Fish eisoes wedi croesi cyn i Roberts sgorio ail gais ei dîm. Gyda chicio Rhys Patchell, roedd gan y Gleision fantais o 17-3 ar yr egwyl, ond daeth Treviso yn ôl yn yr ail hanner.

Sgoriodd Robert Barbieri ddau gais i fygwth sioc, ond fe ddaeth dau gais arall i'r Gleision gan Jason Tovey a Campese Ma'afu i sicrhau'r fuddugoliaeth a phwynt bonws.

Munster 33-13 Dreigiau

Ond fe gafodd y Dreigiau gweir ar daith i Iwerddon wrth i Munster godi i'r ail safle yn y tabl drwy sgorio pum cais.

Roedd Ian Keatley a Niall Ronan wedi croesio am geisiau o fewn y 13 munud cyntaf i sicrhau'r dechrau gwaethaf posibl i'r Dreigiau.

Daeth yr ymwelwyr yn ôl rhywfaint i'w chadw hi'n 14-3 ar yr egwyl, ond fe ddaeth tri chais arall i Munster yn yr ail gyfnod - Conor Murray, Simon Zebo a Tommy O'Donnell yn sgorio - gyda chais Dan Evans yn cynnig ychydig iawn o gysur i'r Dreigiau.

Scarlets 16-23 Gweilch

Nos Wener daeth buddugoliaeth gyntaf y tymor i'r Gweilch yn y Pro12 a hynny yn erbyn y tîm ar frig y gynghrair.

Ond roedd hon yn gêm darbi agos a chystadleuol o'r cychwyn cyntaf.

Y Gweilch oedd ar y blaen ar yr egwyl o 9-6, ciciau cosb gan Dan Biggar a Rhys Priestland.

Yn yr ail hanner roedd y Scarlets lawr i 14, er hynny roedd yna gyfle i'r tîm cartref fynd ar y blaen, ond fe wnaeth cic gosb Priestland daro'r postyn.

Blaenwyr y Gweilch oedd yn mwynhau'r oruchafiaeth ac fe wnaeth hynny arwain i gais i Ryan Jones ar ôl 70 munud. Llwyddodd Biggar gyda throsgais o ongl ddigon anodd.

Yna o fewn pedwar munud fe wnaeth y Gweilch ymestyn eu mantais, yr asgellwr Dirkson yn croesi'r llinell ar ôl gwaith da gan y blaenwyr.

Fe wnaeth y Scarlets sgorio cais yn y munud olaf, George North yn llwyddo i gael ei law ar y bêl yn dilyn cic o law Priestland.

Llwyddodd trosgais Priestland ar ddiwedd y gêm sicrhau pwynt bonws i'r tîm cartref.

Yn y gêm arall nos Sadwrn roedd buddugoliaeth i Leinster dros Gaeredin o 22-16.

CANLYNIADAU GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 28/29/30 Rhag. 15/16/17 Chwe. 23/24/25 Tach. 4/5/6 Ion. 18-23 26/27/28 Hyd. 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Maw. 41-10
Connacht 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 3/4/5 Mai 9-13 15/16/17 Chwe. 28/29/30 Medi 21/22/23 Rhag. 11-24 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 15/16/17 Chwe. 5-16 21/22/23 Rhag. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 26/27/28 Hyd. 37-6
Glasgow 21/22/23 Rhag. 27-17 2/3/4 Tach. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 23/24/25 Tach. 29/30/31 Maw. 13-18 4/5/6 Ion. 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi
GLEISION 19-21 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Rhag. 5/6/7 Hyd. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 34-18 28/29/30 Medi 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 10-28 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach. 28/29/30 Medi 28/29/30 Rhag. 12/13/14 Ebr. 13-16 4/5/6 Ion.
Leinster 22-16 28/29/30 Rhag. 45-25 22/23/24 Maw. 26/27/28 Hyd. 3/4/5 Mai 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag.
Munster 8/9/10 Chwe. 22/23/24 Maw. 33-13 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 23/24/25 Tach. 19-6 28/29/30 Rhag. 26/27/28 Hyd.
SCARLETS 1/2/3 Maw. 8/9/10 Chwe. 5/6/7/ Hyd. 12/13/14 Ebr. 21/22/23 Rhag. 16-23 45-20 15/16/17 Chwe. 3/4/5 Mai 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach.
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 12-6 18-19 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Medi 23/24/25 Tach. 28/29/30 Rhag.
Ulster 2/3/4 Tach. 5/6/7 Hyd. 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 8/9/10 Chwe. 21/22/23 Rhag. 20-19 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 15/16/17 Chwe.
Zebre 29/30/31 Maw. 17-30 22/23/24 Chwe. 8/9/10 Chwe. 23/24/25 Tach. 5/6/7 Hyd. 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 21/22/23 Rhag. 21/22/23 Medi

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.