Abertawe 0-3 Everton

Kevin Mirallas Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Kevin Mirallas yn penio ail gôl Everton yn erbyn Abertawe

Collodd deg dyn Abertawe yn yr Uwchgynghrair am yr ail gêm yn olynol yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Daeth yr Elyrch dan bwysau o'r dechrau gan yr ymwelwyr o Everton, ac fe sgoriodd Victor Anichebe i'w rhoi ar y blaen wedi 21 munud gyda chymorth Marouane Fellaini.

Roedd rheolwr Cymru, Chris Coleman yn y dorf i weld y gêm, ac fe fydd perfformiad y ddau o wlad Belg yn nhîm Everton wedi pwysleisio'r her fydd yn wynebu Cymru yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd gyda Chymru eisoes wedi colli i'r Belgwyr.

Fe greodd Fellaini y gyntaf, ac fe sgoriodd Kevin Mirallas - y llall o Wlad Belg - yr ail ddau funud cyn yr egwyl i roi mynydd o dasg yn yr ail hanner i dîm Michael Laudrup.

Ceisiodd Laudrup newid pethau ar yr egwyl. Roedd Pablo Hernandez wedi dechrau gêm i Abertawe am y tro cyntaf, ond fe adawodd i wneud lle i Nathan Dyer ar ddechrau'r ail hanner.

Ond doedd Dyer ddim ar y cae am hir. Roedd eisoes wedi gweld cerdyn melyn am un dacl flêr, a phan ddaeth ail dacl fudr yn fuan wedyn doedd dim dewis gan y dyfarnwr ond dangos ail gerdyn melyn - ac felly cerdyn coch - i Dyer.

Fe greodd Abertawe ambell gyfle, ond roedd Angel Rangel a Danny Graham yn wastraffus o flaen gôl.

Fe dalon nhw'n pris hefyd wrth i Fellaini sgorio'r drydedd i Everton gyda deng munud o'r chwarae yn weddill.

Daeth llawer mwy o gyfleoedd i Everton, ac fe allai'r sgôr fod wedi bod yn llawer gwaeth.

Yr hyn fydd yn destun mwy o bryder i Laudrup yw bod Everton - hyd yn oed pan oedd hi'n 11 dyn yr un - wedi cael llawer mwy o'r meddiant nag Abertawe, ac mae bygythiad yr Elyrch o flaen y gôl a welwyd yn y gemau cynnar fel petai wedi diflannu am y tro.

Fydd pethau'n ddim haws i Abertawe y penwythnos nesaf gyda thaith anodd i Stoke yn eu hwynebu.

TABL UWCHGYNGHRAIR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Chelsea 5 7 13
2. Man Utd 5 6 13
3. Everton 5 4 10
4. West Brom 5 3 10
5. Arsenal 5 7 9
11. ABERTAWE 5 3 7

Straeon perthnasol