Moslemiaid yn protestio am ffilm

protest Image copyright BBC news grab
Image caption Daeth tua 100 o brotestwyr i ganol dinas Caerdydd

Mae tua 100 o Foslemiaid wedi bod yn protestio yng nghanol dinas Caerdydd.

Roedden nhw'n protestio yn erbyn ffilm gwrth-Foslemaidd, Inooncence Of Muslims, gafodd ei gwneud yn yr Unol Daleithiau ac sydd wedi achosi cythrwfwl ar draws y byd Moslemaidd.

Roedd Moslemiaid aeth i'r rali yn mynnu gweithredu i rwystro casineb ar sail crefydd.

Roedd gwrthdystwyr yn sefyll ger cerflun Aneurin Bevan yn Stryd y Frenhines gan chwifio baneri gwrth-Americanaidd a gwrth-Ffrengig.

Dywedodd y trefnwyr bod y brotest i bwysleisio yr hyn yr oedden nhw'n disgrifio fel "troseddau yn erbyn Islam a Moslemiaid".

Dywedodd Abu Hajar: "Rydym yn credu bod crwsâd milwrol yn digwydd yn Irac a Afghanistan, a chrwsâd ideolegol yn digwydd yn Ewrop ac yn America.

"Rhan o'r crwsâd ideolegol yna yw cynnal ymosodiadau ac enllib yn erbyn Islam, boed hynny yn losgoi'r Koran neu'r enllib diweddaraf i ymosod ar y proffwyd Muhammad a'i deulu."

Cafodd y fflim ddadleuol ei gwneud yn breifat yn America, ond mae'r neges gwrth-Foslemaidd wedi cael ei chondemnio gan Arlywydd America, Barack Obama.