Nick Clegg yn beirniadu ail-raddio TGAU yng Nghymru

Y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Brighton Image copyright PA
Image caption Y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Brighton

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi beirniadu penderfyniad Gweinidog Addysg Cymru i orchymyn ail-raddio rhai papurau TGAU Saesneg yng Nghymru.

Dywedodd Mr Clegg wrth BBC Cymru ei bod yn ymddangos fod Leighton Andrews yn "newid y meini prawf" ar gyfer plant yng Nghymru.

Mae'r drafodaeth ynglŷn ag ail-raddio wedi achosi ffrae wleidyddol, gyda Lloegr yn dewis peidio ag ail-raddio'r papurau.

Yn ôl Mr Andrews, roedd cannoedd o ddisgyblion Cymru wedi "cael cam".

Penderfynodd y gweinidog - fel rheoleiddiwr arholiadau yng Nghymru - orchymyn adolygiad, a ddaeth i'r casgliad fod y drefn farcio wedi rhoi myfyrwyr dan anfantais.

Anghytuno

Derbyniodd dros 2,300 o'r 34,000 disgybl oedd wedi sefyll arholiad TGAU Saesneg Iaith gyda bwrdd arholi CBAC well canlyniadau'r wythnos ddiwetha' wedi i'w papurau gael eu hail-farcio.

Ond dyw papurau 84,000 o fyfyrwyr wnaeth yr un arholiad yn Lloegr ddim wedi cael eu hail-raddio wedi i'r rheoleiddiwr arholiadau yno, Ofqual, benderfynu peidio ag ymyrryd.

Dywedodd Mr Clegg wrth BBC Cymru: "Dydw i ddim yn cytuno gyda'r hyn mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud, mae'n ymddangos eu bod yn newid y meini prawf i blant yng Nghymru.

"Rwy'n gwybod beth maen nhw'n ei ddweud ond 'dwi ddim yn credu ei bod hi'n iawn i wleidyddion ymyrryd mewn system arholi annibynnol.

'Ymyrryd'

"Rwy'n cydymdeimlo'n arw â rhieni a phlant, yn enwedig y rheiny sydd wedi sefyll TGAU Saesneg ac sydd yn teimlo fod 'na newid yn y ffordd yr oeddynt yn cael eu hasesu, ond 'dwi'n teimlo'n gryf na ddylai gwleidyddion ddechrau ymyrryd a dweud ein bod yn mynd i newid y system yn unochrog."

Dywedodd Mr Clegg fod y glymblaid wedi gwneud y penderfyniad "cywir" i gyflwyno Tystysgrif Bagloriaeth Saesneg (EBAC) yn lle TGAU.

"Nawr mae fyny i Lywodraeth Cymru a gwleidyddion Cymru benderfynu a ydyn nhw eisiau dilyn ein hesiampl ni, ond 'dwi ddim yn credu y bydd pobl a phlant Cymru'n elwa yn y tymor hir os yw gwleidyddion Cymru'n ymyrryd mewn ffordd fympwyol yn y system arholi," ychwanegodd.

Dywedodd Mr Andrews y bydd yn gwneud ei benderfyniad ei hun ar ddyfodol TGAU yng Nghymru ym mis Tachwedd.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb i sylwadau Mr Clegg.

Straeon perthnasol