Roberts yn ystyried ei ddyfodol

Jamie Roberts Image copyright Huw Evans picture agency

Yn ôl canolwr Cymru Jamie Roberts does ganddo ddim syniad i bwy fydd e'n chwarae unwaith i'w gytundeb presennol gyda'r Gleision ddod i ben ddiwedd y tymor hwn.

Mae sôn yn y wasg y gallai'r chwaraewr 25 oed symud i un o glybiau Ffrainc.

Dywed Phil Davies, hyfforddwr y Gleision, ei fod e'n gobeithio y bydd Roberts yn aros gyda chlwb y brifddinas.

"Does gennyf ddim syniad beth fyddai'n wneud y flwyddyn nesa, dwi heb benderfynu" meddai Roberts.

"Yn amlwg bydd fy nghytundeb wedi dod i ben a hefyd byddaf wedi cwpla fy ngradd feddygol.

"Mae yna bethau i'w datrys a gobeithio bydd hynny'n digwydd o fewn y misoedd nesaf."

Mae Roberts wedi bod gyda'r Gleision er 2007.

Fe ddychwelodd i'r tîm cyntaf yr wythnos diwethaf ar ôl bod yn absennol am bum mis gydag anaf i'w ben-glin.

Mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol o Gymru eisoes wedi cael eu denu i chwarae rygbi yn Ffrainc lle mae'r cyflogau yn uwch.

"Mae amgylchiadau pawb yn wahanol," meddai Roberts sydd wedi ennill 44 o gapiau rhyngwladol.

"Mae teulu ac amgylchiadau ariannol yn amlwg yn rhan bwysig o unrhyw benderfyniad.

"Yn sicr byddant yn chwarae rhan bwysig wrth i fi benderfynu. Mae yna lot fawr i ystyried ac mae'n amser allweddol yn fy ngyrfa."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.