Darganfod safle Rhufeinig ar Ynys Môn

Mae archeolegwyr fu'n gweithio ar lannau'r Fenai wedi dod o hyd i safle sydd, meddai nhw, o bwysigrwydd cenedlaethol.

Mae'r safle yn Llanedwen, Ynys Môn wedi datgelu "nifer anarferol o ddeunyddiau safon uchel, sy'n awgrymu safle Rhufeinig â chysylltiadau milwrol".

Ond mae yna bryder y bydd 'na lai o brosiectau fel hyn yn y dyfodol oherwydd toriadau mewn gwariant cyhoeddus.

Dywed Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd fod gwaith ffordd a rhwydwaith o adeiladau wedi eu darganfod ond ddaeth yr un ffos amddiffynnol i'r amlwg.

Mae'r crochenwaith a darnau arian gafodd eu darganfod yn awgrymu fod y safle wedi ei ddefnyddio yn yr ail ganrif.

Nid yw'r gweithiau llaw wedi eu dadansoddi eto ond y gred yw bod y safle milwrol ger Sw Môr Ynys Môn wedi cael ei ddefnyddio yn yr ail ganrif wedi i'r Ymerodraeth Rufeinig oresgyn llwythi Prydain yn 43 O.C.

'Safle unigryw'

Ym marn yr archeolegydd Dave Hopewell - oedd yn gyfrifol am y cloddio ar safle yn Nhai Cochion a Threfarthen - mae'n debyg fod hwn yn safle masnachol gyda chysylltiad agos â safle Segontium, y Gaer filwrol ger Caernarfon.

"Mae hwn yn safle unigryw," meddai Mr Hopewell, "a doedd gennym ni ddim syniad am fodolaeth y lle nes i wraig leol oedd wedi defnyddio offer canfod metel ar y safle ddechrau dod o hyd i greiriau diddorol."

Olion ffyrdd a thai oedd y darganfyddiadau mwyaf diddorol, yn awgrymu fod 'na heol Rufeinig o'r safle yn mynd ar draws Ynys Môn.

Cafodd canoedd o ddarnau crochenwaith, o arian ac o adeiladau oedd wedi cael eu llosgi yn ulw, eu darganfod yn Nhrefarthen.

Mae'r creiriau ar hyn o bryd yn cael eu hasesu gan arbenigwyr yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Dywedodd Dave Hopewell o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd: "Mae hyn yn newid ein barn am Gymru o dan y Rhufeiniaid ac i ryw raddau Prydain o dan y Rhufeiniaid.

"Roedden ni wedi cymryd yn ganiataol mae safle milwrol oedd yn yr ardal hon ac na fu anheddiad Rhufeinig yma o gwbl."

Cadw

Image caption Nid yw'r gweithiau llaw wedi eu dadansoddi eto

Yn ôl Richard Rogers, mab perchennog y safle Peter Rogers, y gyfrinach oedd bod yr archeolegwyr wedi parchu'r ffaith fod Trefarthen yn rhan o fferm oedd yn tyfu cnydau ac yn meithrin da byw.

"Roedden nhw'n parchu'r ffaith ein bod ni fel amaethwyr angen cadw'r fferm i fynd wrth i'r cloddio fynd yn ei flaen," meddai Mr Rogers.

Cadw - y corff sy'n gofalu am dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru - a dalodd am y gwaith.

Mae Neil Johnson, o Sefydliad yr Archeolegwyr Maes, yn pryderu nawr na fydd 'na arian ar gael i'r dyfodol oherwydd y toriadau mewn gwariant cyhoeddus.

"Ar y cyfan, does 'na ddim cymaint o arian ar gael i waith fel hyn rwan, felly mae arian Cadw yn bwysig iawn. Oes mae 'na bryder ynlgŷn â faint o arian sydd, ac a fydd ar gael."

Dywedodd Gweinidog Treftadaeth Huw Lewis, tra ar ymweliad swyddogol â'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis, yr wythnos diwethaf: "Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, does yna'r un gyllideb yn ddiogel. Fe wna' i fy ngorau i ddiogelu cyllid Cadw, ond allai ddim gwarantu hynny," meddai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.