Harris i ymuno â Middlesex

James Harris
Image caption Chwaraeodd Harris i Forgannwg am y tro cyntaf yn 2007 pan oedd yn 16 oed

Mae James Harris wedi penderfynu ymuno â Chlwb Criced Middlesex wedi iddo wrthod "cytundeb sylweddol" i aros gyda Morgannwg.

Cafodd Harris, 22 oed, gynnig gan Swydd Nottingham ond penderfynodd chwarae gyda'r tîm sy'n chwarae ar faes Thomas Lord.

Roedd gan y bowliwr cyflym gymal yn ei gytundeb â Morgannwg oedd yn ei alluogi i adael y sir pe na baent yn chwarae yn yr Adran Gyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Mae Harris wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Middlesex.

India

Dywedodd Harris fod yn rhaid iddo adael Morgannwg i hybu ei obeithion o gael ei ddewis i chwarae i Loegr.

Chwaraeodd i Forgannwg am y tro cyntaf yn 2007 pan oedd yn 16 oed, ac ef yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i gipio 200 o wicedi i'r sir.

Yr wythnos diwethaf fe gafodd ei ddewis i chwarae i dîm Rhaglen Berfformio Lloegr yn ystod y gaeaf.

Mae Harris wedi ei gynnwys yn y garfan o 17 a fydd yn teithio i India ym mis Tachwedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.