Gwobr £6.3m ym Môn neu Wynedd yn dal heb ei hawlio

Peli Lotto Image copyright bbc
Image caption Cafodd y tocyn buddugol ei brynu ym Môn neu Wynedd

Mae gwobr loteri, sy'n werth £6.3m, yn dal heb ei hawlio gan rywun oedd wedi prynu tocyn yn Sir Fôn neu Wynedd.

Yn ôl y trefnwyr, Camelot, cafodd ei brynu ddydd Sadwrn, Medi 8 a'r rhifau buddugol oedd 8, 15, 21, 26, 28, 32 - a'r belen fonws oedd 29.

Mae gan yr enillydd tan ddydd Iau, Mawrth 7, i hawlio'r wobr o £6,392,389.

Roedd y Loteri Genedlaethol yn annog pobl i edrych ar eu hen docynnau.

"Rydym bron â marw eisiau dod o hyd i'r sawl sydd wedi ennill er mwyn rhoi'r arian iddyn nhw," meddai llefarydd.

"Gallai'r wobr wych wneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun. Rydym yn annog pawb i edrych ar eu hen docynnau eto, neu chwilio am docynnau allai fod ar goll."

Fe geisiodd y loteri helpu drwy ddweud bod y rhifau wedi cael eu dewis ar ddiwrnod olaf y rasio trac yn y Gemau Paralympaidd, pan gipiodd Oscar Pistorius o Dde Affrica'r fedal aur yn y 400m.

Os na fydd rhywun yn hawlio'r wobr cyn y dyddiad cau, bydd yr arian a'r llog arno yn cael eu rhoi at gronfa Achosion Da'r loteri.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.