Pwll nofio yng Nghasnewydd: Saith achos arall o haint

Cryptosporidiwm Image copyright BBC Elvis
Image caption Cafodd y pwll ei gau ar Fedi 6.

Mae 'na fwy o achosion o gryptosporidiwm yn gysylltiedig â phwll nofio yng Nghasnewydd.

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod saith achos arall yn golygu cyfanswm o 14.

Ers canol mis Awst mae 'na 44 achos wedi bod yn hen sir Gwent, gan gynnwys 14 sy'n cael eu cysylltu gyda Chanolfan Pwll Nofio Casnewydd.

Cafodd y pwll ei gau ar Fedi 6.

Mae ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal i system weithredu'r pwll, gan gynnwys y system hidlo.

Dylai unrhyw un nad yw'n hwylus roi gwybod i feddyg teulu - Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Fe ddylai unrhyw un gyda symptomau dolur rhydd neu chwydu olchi ei ddwylo ar ôl bod yn y tŷ bach a pheidio mynd i'r gwaith neu'r ysgol am 48 awr ar ôl i'r symptomau ddod i ben.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ddylai neb fynd i nofio am bythefnos ar ôl y salwch.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.