Diswyddiadau mewn ffatri creision yn 'anorfod' wedi i dân ddinistrio ffatri

Ffatri Real Crisps, Crymlyn
Image caption Roedd 75% o ffatri Real Crisps eisoes yn wenfflam pan gyrhaeddodd y frigâd dân

Mae cwmni creision wedi dweud bod diswyddiadau'n anorfod ar ôl tân yn y ffatri'r wythnos diwethaf.

Fe wnaeth y tân ddinistrio ffatri Real Crisps yng Nghrymlyn, Sir Caerffili.

Mae 115 o bobl yn gweithio ar y safle.

Dywedodd rheolwr y cwmni y byddai nifer fach yn teithio i ffatri'r cwmni yng Ngogledd Iwerddon tra byddai eraill yn cael eu symud i Corby, Sir Northampton.

Ond mae Paul Allen wedi rhybuddio na fydd modd adleoli'r staff i gyd.

"Mae'n anodd meddwl bod cymaint yn gallu newid mewn cyfnod mor fyr," meddai.

Clywodd y staff ddydd Llun y bydden nhw'n derbyn cyflogau llawn tan ddiwedd mis Hydref.

'Arbenigedd'

"Mae'n anodd gwneud cynlluniau wedi hynny," ychwanegodd Mr Allen.

"Dydi hi ddim yn ymarferol yn economaidd symud pawb ac aflonyddu ar unigolion a'u bywydau teuluol.

"Mae diswyddiadau felly yn edrych yn anorfod."

Dywedodd nad oedd amserlen ond eu bod am roi cymaint o rybudd i'r staff.

"Mae nifer yn weithwyr â sgiliau arbennig a fyddwn ni'n gweithio'n galed i sicrhau na fyddwn ni'n colli'r arbenigedd ond mae'n anymarferol symud 115 o bobl ...," ychwanegodd.

Dywedodd fod y cwmni wythnosau'n ôl wedi trafod y bwriad o gynyddu oriau staff a bod y sefyllfa bresennol yn gwbl annisgwyl.

Parhau

Mae'r cwmni'n bwriadu trafod gyda Llywodraeth Cymru am yr hyn y gellir ei wneud a sicrhau bod y brand Real yn parhau.

Mae dyn 30 oed o Abertyleri, Colin Goulding, wedi cael ei arestio wedi'r digwyddiad ddydd Iau.

Cafodd ei gyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Am 3am fore Iau y cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ffatri ar Stad Ddiwydiannol Penyfan.

Chafodd neb ei anafu ond roedd rhaid i'r shifft nos adael yr adeilad.

Gan fod y ffatri'n defnyddio olew a braster i wneud eu cynnyrch, fe ledodd y tân yn gyflym.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.