'Lefelau dŵr yn beryglus o uchel,' medd Asiantaeth yr Amgylchedd

Rain Image copyright Getty Images
Image caption Hwn oedd y trydydd haf gwlypaf yng Nghymru eleni

Mae lefelau dŵr yn dechrau cilio mewn mannau wedi llifogydd effeithiodd ar rannau o Gymru.

Dywedodd swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd fod y sefyllfa wedi gwella ychydig ond bod lefelau dŵr mewn mannau yn dal yn "beryglus o uchel".

Mae modd gweld y manylion diweddara' ar wefan yr asiantaeth.

Dywedodd Rhian Haf, cyflwynydd tywydd Radio Cymru: "Mae disgwyl mwy o law trwm yn y de ond mae'r sefyllfa'n gwella yn y gogledd."

Amharwyd ar wasanaethau rheilffordd cwmni Trenau Arriva Cymru rhwng Caer a Crewe.

Dargyfeirio

Fore Mercher mae'r gwasanaethau rhwng Caergybi a Birmingham Rhyngwladol yn cael eu dargyfeirio rhwng Caer a'r Amwythig a'r gwasanaethau rhwng Crewe a Chaergybi yn dechrau yng Nghaer.

Mae'r tywydd wedi effeithio ar wasanaethau eraill yng Nghymru a'r manylion ar wefan Trenau Arriva Cymru, gwasanaeth gwybodaeth fyw.

Dywedodd yr asiantaeth fod eu rhybudd llifogydd yn cyfeirio at "eiddo ynysedig ac ardaloedd helaeth o dir amaethyddol o fewn gorlifdir Afon Dyfrdwy Isaf".

"Mae lefelau'r afonydd yn uwch na'r arfer," meddai llefarydd, "ond nid ydym yn disgwyl llifogydd ar hyn o bryd."

Yn ddiweddarach bydd hi'n brafiach yn y gogledd wrth i'r glaw symud i'r de.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.