Polisi 'risg uchel' Llywodraeth Cymru i ganiatau mynediad am ddim

Castell Caernarfon
Image caption Mae nifer o adeiladau fel Castell Caernarfon o dan adain Cadw

Fe benderfynodd Llywodraeth Cymru ddilyn ei bolisi o fynediad am ddim i safleoedd treftadaeth i ddinasyddion Cymru, hyd yn oed ar ôl cael gwybod ei fod yn cario risg uchel o gael eu datgan yn anghyfreithlon, gall BBC Cymru ddatgelu.

Mae eu cyngor cyfreithiol mewnol, a ddatgelwyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn rhybuddio fod y polisi yn debygol iawn o fod yn wahaniaethol ac felly yn anghyfreithlon o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r gwrthbleidiau yn galw am eglurhad ar frys oddi wrth y llywodraeth am y sefyllfa gyfreithiol sy'n ymwneud â pholisïau eraill sy'n gymwys i Gymry yn unig.

Polisïau fel y cymhorthdal ​​ffioedd dysgu i fyfyrwyr o Gymru.

Yn y gorffennol mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi disgrifio amheuaeth ynglŷn â dilysrwydd polisïau i Gymry yn unig fel "rwtsh".

Amheuon

Cyflwynwyd cynllun CADW fel ymrwymiad allweddol gan glymblaid y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn 2008.

Bu mewn bodolaeth tan 2011.

Roedd yn rhoi mynediad i safleoedd treftadaeth am ddim i bobol dros-60 a dan 16 oed sy'n byw yng Nghymru.

Ond mae'r wybodaeth sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos fod amheuon cyfreithiol sylweddol am y cynllun hyd yn oed cyn iddo gael ei gyflwyno.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydi'r polisi mynediad am ddim i safleoedd Cadw bellach yn weithredol, ac nid yw'r cyngor cyfreithiol yn ymwneud ag ef oedd cael effaith "uniongyrchol" ar bolisïau eraill fel teithiau bws am ddim a chymorth i fyfyrwyr.

Ond dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, ei fod yn pryderu'n fawr fod y llywodraeth wedi gweithredu yn y fath fodd er gwaethaf y rhybuddion cyfreithiol.

Ychwanegodd y dylai Mr Andrews gyhoeddi'r cyngor cyfreithiol mewn perthynas â'r polisi ffioedd.

Sicrwydd

"Mae datguddiad BBC Cymru yn codi cwestiynau pellach am bolisïau eraill gan Lywodraeth Cymru a allai fod yn wahaniaethol ac anghyfreithlon," meddai Mr Roberts.

"Un o egwyddorion sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd yw na all unrhyw ddinesydd yr UE neu fyfyriwr gael ei drin yn wahanol i ddinasyddion eu mamwlad.

"Bu cwestiynau cyson yn cael eu gofyn ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn gorfod talu ffioedd myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd sydd yn astudio yn Lloegr.

"Rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud y cyngor cyfreithiol ar gael i'r cyhoedd fel y gallwn fod yn sicr o gyfreithlondeb y polisi."

Gofynnodd y BBC i weld y cyngor cyfreithiol a pholisi a roddir i'r llywodraeth mewn perthynas â'r cynllun Cadw.

Mae'n dangos, wrth iddo gael ei gyflwyno yn 2008, fod gweinidogion wedi derbyn rhybuddion bod dyfarniadau Llys Ewropeaidd yn dangos bod "Codi tâl ffafriol ... yn seiliedig ar breswylio mewn rhanbarth penodol o bosib yn anghyfreithlon".

Ond y cyngor i weinidogion oedd bwrw ymlaen â'r cynllun wrth gadw'r risgiau cyfreithiol "o dan adolygiad".

'Risg uchel'

Yn 2010, gofynnodd y Prif Weinidog Carwyn Jones am adolygiad o'r cynllun.

Dywedodd swyddogion nad oedd wedi cyflawni ei amcan o ehangu mynediad.

Yn ogystal "os bydd her gyfreithiol, mae risg uchel y byddai'r cynllun yn cael ei ddyfarnu'n wahaniaethol, ac, fel y cyfryw, yn anghyfreithlon o dan gyfraith ddomestig a'r UE ".

Ym mis Gorffennaf 2010 dywedodd wrth weinidogion, "Er gwaethaf y pryderon sydd gennym ynghylch a yw'r cynllun mynediad am ddim yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir, mae'r cyngor cyfreithiol rydym wedi derbyn yn ein harwain i addasu a dod a diwedd i'r cynllun".

Roeddent hefyd wedi eu rhybuddio y gall "heriau cyfreithiol olygu cryn dipyn o amser, cost (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol, iawndal a dirwyon) a chyhoeddusrwydd digroeso. "

Fodd bynnag, roedd hi'n fis Mawrth 2011 pan gyhoeddwyd fod y cynllyn yn dod i ben.

Rhoddwyd cyngor i Cadw y byddai'r opsiwn o gadw mynediad am ddim ond ei ymestyn i holl ddinasyddion y DU a'r UE ei amddifadu o hyd at £ 1.5m mewn arian refeniw.

Mewn ymateb i gais gwreiddiol BBC Cymru ym mis Rhagfyr 2010, gwrthododd Llywodraeth Cymru ryddhau'r cyngor cyfreithiol ar y polisi mynediad am ddim gan nodi braint broffesiynol, ond yn dilyn apêl, dyfarnodd y Comisiynydd Gwybodaeth fod budd cyhoeddus mewn gweld y deunydd, a gorchymynnodd fod y llywodraeth yn ei ddatgelu.

'Dim effaith'

"Nid yw'r cynllun o dan sylw bellach yn weithredol," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Does gan y cyngor cyfreithiol mewn perthynas â mynediad rhad ac am ddim i safleoedd CADW ddim effaith uniongyrchol ar ein polisïau brecwast ysgol am ddim, tocynnau bws am ddim, presgripsiynau am ddim a chymorth i fyfyrwyr. "

Ychwanegodd Mr Roberts bod hyn yn destun pryder mawr bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn y fath fodd.

"Hyd yn oed ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol yn datgan bod eu polisïau a allai fod yn wahaniaethol ac anghyfreithlon o dan gyfraith yr UE, maent yn parhau beth bynnag.

"Mae'r cyngor cyfreithiol a roddwyd i Lywodraeth Cymru ar fynediad i safleoedd Cadw yn glir ac fe ddylai'r Prif Weinidog fod wedi gwrando ar y cyngor hwn.

"Tydi cyfreithwyr ddim yn rhoi cyngor ar chwarae bach. Os caiff ei herio yn y llysoedd, gallai hyn fod wedi bod yn gostus iawn ac wedi achosi embaras mawr."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.