Penddelw i gofio'r bardd a'r heddychwr Waldo Williams

Waldo Williams
Image caption Yn ogystal â llunio campweithiau fel Preseli, Cofio a'r Tangnefeddwyr, roedd Waldo yn heddychwr

Mae'r heddychwr a'r bardd o Sir Benfro, Waldo Williams, wedi'i anfarwoli gan benddelw gafodd ei ddadorchuddio nos Wener.

Nai Waldo, Gerwyn Williams, wnaeth cyflwyno'r penddelw i Ysgol y Preseli Crymych a bydd croeso i'r cyhoedd weld y pen yn llyfrgell gyhoeddus yr ysgol wedyn.

Llwyddodd Cymdeithas Waldo i godi'r £4,950 i greu'r gofeb o fewn llai na blwyddyn wedi ymgyrch i godi arian i dalu amdano.

John Meirion Morris, y cerflunydd o Lanuwchllyn, a wnaeth y penddelw.

'Yr eiliad'

Cyn y dadorchuddio nos Wener fe wnaeth Y Prifardd a'r Prif Lenor Mererid Hopwood draddodi darlith flynyddol Cymdeithas Waldo ar y teitl 'Gobaith fo'n meistr: Rhoed Amser inni'n was'.

Dywedodd Mr Morris ei fod wedi treulio rhwng dau a thri mis i greu'r penddelw.

"Efydd yw cyfrwng y portread gorffenedig ac fe gafodd ei gastio mewn ffowndri yng Nghlunderwen.

"Bu'n rhaid i mi ddefnyddio lluniau o Waldo Williams o bob ongl oherwydd bod y penddelw mewn tri dimensiwn.

"Fel arfer mae un llun yn cael blaenoriaeth yn y pen draw mewn ymgais i greu rhywbeth byw."

Ychwanegodd ei fod wedi darllen barddoniaeth Waldo i'w alluogi i gynrychioli gweledigaeth y bardd yn y cerflun.

"Roedd y gerdd Yr Eiliad yn ddylanwad mawr arnaf wrth i mi greu'r penddelw gan geisio dal y syniad o'r eiliad sy'n gysylltiedig â thragwyddoldeb," meddai.

Heddychwr

Sefydlwyd Cymdeithas Waldo yn 2010 a phenderfynwyd cynnal Darlith Flynyddol ar neu yn agos at ddiwrnod pen-blwydd Waldo, Medi 30.

Image caption Sefydlwyd Cymdeithas Waldo Williams yn 2010

Nod y gymdeithas yw diogelu'r cof am ei waith a'i fywyd a ystyrir yn un o lenorion mwyaf dylanwadol Cymru ac yn fardd o statws rhyngwladol.

Cafodd Waldo ei eni yn Hwlffordd yn 1904, yn fab i athro ysgol gynradd o Sir Benfro.

Ond ym mhentref Mynachlog-ddu ger Crymych y dysgodd Gymraeg yng nghwmni plant yr ardal, ac yntau'n fachgen ysgol yn saith oed.

Yn ogystal â llunio campweithiau fel Preseli, Cofio a'r Tangnefeddwyr, roedd yn heddychwr mawr.

Cafodd ei garcharu yn ystod Rhyfel Corea am wrthod talu treth incwm am ei fod yn gwrthwynebu'r ymladd yn y Dwyrain Pell.

Bu hefyd yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad 1959 dair blynedd wedi iddo gyhoeddi ei unig gyfrol o farddoniaeth, Dail Pren.

Bu farw yn 1971.

Mae Diwrnod Cofio Waldo yn ddigwyddiad blynyddol, gydag ysgolion a chymdeithasau o gwmpas Cymru yn dathlu ei gyfraniad.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.