Yr heddlu yn ymchwilio ar ôl canfod dau gorff mewn afon yn Wrecsam

David Platt ac Alicia Williams Image copyright Facebook
Image caption Mae'r heddlu yn parhau i ymchwiliio i'r hyn ddigwyddodd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddwy farwolaeth "anesboniadwy" yn Wrecsam.

Cafodd corff dynes 25 oed ei ddarganfod yn Afon Clywedog yn Wrecsam nos Fercher.

Dywedodd yr heddlu fod y corff arall, corff dyn 25 oed, wedi cael ei ddarganfod tua hanner nos.

Mae'r ddau wedi eu henwi yn lleol fel Alicia Williams a David Platt.

Dywedodd llefarydd fod yna gysylltiad posib rhwng y ddwy farwolaeth a bod y ddau yn dod o ardal Wrecsam.

"Mae'r ymchwiliad yn parhau," meddai'r llefarydd.

"Credir bod yr ail gorff yn gysylltiedig â chorff y ddynes y cafwyd hyd iddo ddydd Mercher, ond mae hynny eto i'w gadarnhau."

Afon wedi gorlifo

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 5pm ddydd Mercher gan aelod o'r cyhoedd a ddaeth o hyd i'r coff yn yr afon ger Felin Puleston, ger mynedfa Parc Erddig.

Roedd y corff wedi ei dynnu o'r afon erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Image caption Mae blodau wedi cael eu gadael ger y llwybr ar lan Afon Clywedog

Bu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r gwasanaeth ambiwlans yn chwilio'r afon am yr ail gorff yn yr un ardal.

Dydi'r marwolaethau ddim yn cael eu trin fel rhai amheus ond mae amgylchiadau'r ddamwain yn destun ymchwiliad.

Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân i bobl fod yn ofalus ger afonydd oherwydd llif cyflym.

Yn ôl adroddiadau roedd Afon Clywedog wedi gorlifo ei glannau.

Dywedodd Michael Morgan, perchennog busnes glanhau ceir lleol, ei fod wedi dod o hyd i gi oedd ar ben ei hun brynhawn dydd Mercher.

Aeth i geisio dod o hyd i'r perchennog "ond y peth nesa i mi weld oedd ambiwlans".

Dywedodd fod parafeddygon wedi gofyn iddo am gyfeiriadau i lecyn penodol.

Wrth iddo eu tywys i'r safle gwelwyd corff dynes.

Dywedodd fod staff o Blas Erddig wedi cyrraedd y safle ynghyd â chriwiau'r gwasanaeth tân.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.