Dathliad RhAG yn 60 oed

Dosbarth (cyffredinol)
Image caption Bydd yr arlwy yn cynnwys eitemau cerddorol gan rai o ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg

Bydd plant a rhieni'n ymgasglu yn Adeilad Pierhead, Caerdydd i ddathlu 60 mlwyddiant sefydlu mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg.

Mae RhAG yn gorff sydd yn pwyso am ddarpariaeth addysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd llyfryn yn cael ei gyhoeddi i nodi'r achlysur a bydd perfformiad arbennig gan ddisyblion sawl ysgol.

Caiff ffilm unigryw sy'n gywaith o waith nifer o'r ysgolion ei dangos, a bydd darlleniad gan yr actor Richard Harrington o gerdd a gomisiywyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru.

Dywedodd Morgan Hopkins un o'r cyd-drefnwyr ac aelod o Bwyllgor Cenedlaethol RhAG: "Mae'n gyffrous iawn ein bod yn medru dathlu'r garreg filltir hanesyddol hon yn hanes RhAG trwy gynnal digwyddiad mor unigryw.

"Rydym yn falch fod yr achlysur wedi'i gyd-noddi'n drawsbleidiol a thrwy hynny gadarnhau fod addysg Gymraeg bellach wedi ennill consensws gwleidyddol cenedlaethol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.