Tovey yn chwarae ei gêm gynghrair gynta i'r Gleision

Jason Tovey
Image caption Jason Tovey: Gêm gynta' i'r Gleision

Mi fydd Jason Tovey yn dechrau ei gêm gynghrair gyntaf i'r Gleision ers iddo symud o'r Dreigiau ddiwedd y tymor diwetha.

Bydd y gic gyntaf am 7.05pm ym Mharc yr Arfau.

Roedd na ddyfalu mai Cyn Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Cymru fyddai'r dewis cyntaf yn safle'r maswr ar Barc yr Arfau y tymor hwn.

Ond oherwydd salwch a pherfformiadau disglair Rhys Patchell dyw e ddim wedi cael y cyfle tan nawr i greu argraff.

Yn ei gêm gynta ddydd Sadwrn fe ddaeth oddiar y fainc a sgorio cais yn erbyn Treviso.

Dywedodd Phil Davies, Cyfarwyddwr Rygbi'r Gleision: "Roeddwn i'n falch ei fod e wedi sgorio. Dyw e ddim wedi cael y dechrau gorau i'r tymor. Roedd e'n sâl am rai wythnosau ac fe gollodd e chydig o bwysau."

Hon fydd y gêm gystadleuol gynta i Tovey ers mis Chwefror.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at yr achlysur. "Rydw i wedi bod yn amyneddgar a nawr rwy'n cael fy nghyfle. Rwy'n barod amdani."

Pedwar newid

Mae na bedwar newid arall yn nhîm y Gleision o'r pymtheg ddechreuodd y gêm yn erbyn Treviso.

Mae clo Cymru Bradley Davies yn chwarae am y 100fed tro i'r Gleision ac fe fydd y capten Andries Pretorius yn ôl yn safle'r wythwr.

Bydd Robin Copeland yn symud i safle'r blaen-asgellwr. Mae Alex Cuthbert wedi anafu llinyn ei gâr felly Harry Robinson fydd ar yr asgell.

Hon fydd gêm gynta Ulster ers i'w canolwr Nevin Spence gael ei ladd ar ôl damwain ar fferm ei deulu ddechrau'r mis. Bydd munud o dawelwch gyn y gic gynta'.

Bydd asgellwr Iwerddon Tommy Bowe yn chwarae ei gêm gynta i'r ymwelwyr ers iddo adael y Gweilch.

TIMAU

Gleision: Dan Fish; Harry Robinson, Dafydd Hewitt, Jamie Roberts, Tom James; Jason Tovey, Lloyd Williams; Nathan Trevett, Andi Kyriacou, Taufa'ao Filise, Bradley Davies, James Down, Robin Copeland, Andries Pretorius (capten), Sam Warburton.

Eilyddion: Rhys Williams, Campese Ma'afu, Scott Andrews, Lou Reed, Rory Watts-Jones, Rob Lewis, Gareth Davies, Tom Williams

Ulster: Jared Payne; Tommy Bowe, Michael Allen, Darren Cave, Andrew Trimble; Paddy Jackson, Paul Marshall; Tom Court, Nigel Brady, John Afoa, Neil McComb, Dan Tuohy, Iain Henderson, Chris Henry (capten), Nick Williams.

Eilyddion: Rob Herring, Callum Black, Adam Macklin, Lewis Stevenson , Mike McComish, Michael Heaney, Paddy Wallace, Craig Gilroy.

Dyfarnwr: Marius Mitrea (Yr Eidal)

Parc yr Arfau

Y gic gynta': 7.05pm

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.