Record byd arall i'r beiciwr Mark Colbourne

Mark Colbourne

Creodd y beiciwr Mark Colbourne record byd newydd ar ail ddiwrnod Pencamowriaeth Beicio Trac Cenedlaethol ym Manceinion.

Y Cymro ddaeth i'r brig yn y ras MC1 200m yn erbyn y cloc.

Llwyddodd i osod targed o 14.177 eiliad.

Wnaeth neb ei guro.

Y record flaenorol oedd 14.875 eiliad.

Dyma fuddugoliaeth ddiweddara Colbourne ar ôl ennill medal aur a dwy arian yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain yn gynharach eleni.

Roedd o'n siomedig ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth ym Manceinion ar ôl gorffen yn ail yn ei ras.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.