Gweilch yn gobeithio y bydd chwaraewyr allweddol ar gael i herio Munster

Gobaith y bydd Adam Jones ar gael i herio Munster
Image caption Y gobaith yw y bydd Adam Jones ar gael i herio Munster

Mae'r Gweilch yn gobeithio y bydd y prop Adam Jones a'r canolwr Ashley Beck yn holliach cyn wynebu Munster yn y Pro 12 ddydd Sadwrn.

Mae Jones, aelod amlwg o reng flaen Cymru, wedi bod yn diodde o anaf i'w benglin tra bod Beck wedi wedi anafu ei belfis.

Mae Denis Hurley yn ôl yn nhîm yr ymwelwyr ar ôl gwella o salwch a bydd y mewnwr Conor Murray yn chwarae am y tro cynta'r tymor hwn.

Fe gurodd Munster y Dreigiau o 33-13 yn y rownd ola'. Maen nhw'n ail yn y tabl.

Bydd y Gweilch yn ceisio ennill eu gêm gystadleuol gynta'r tymor hwn.

Dywedodd Gruff Rees, hyfforddwr sgiliau'r tîm, ei bod hi'n edrych "yn addawol" y byddai Jones a Beck yn chwarae yn erbyn Munster.

Ond fydd y ddau flaenwr, James King a Tom Smith, ddim ar gael am gyfnod oherwydd anafiadau.

Mae'r asgellwr Eli Walker, y clo James Goode a'r maswr Tom Habberfield hefyd wedi eu hanafu.

TIMAU

Y Gweilch: I'w Gadarnhau

Munster: D Hurley, D Howlett (capten), K Earls, C Laulala, S Zebo, R O'Gara, C Murray; W Du Preez, M Sherry, S Archer, D O'Callaghan, B Holland, T O'Donnell, N Ronan, P Butler.

Eilyddion: D Varley, D Kilcoyne, BJ Botha, D Ryan, P O'Mahony, P Stringer, I Keatley, J Downey.

Y gic gyntaf: 6.30pm, nos Sadwrn, Stadiwm y Liberty

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.