Mike Phillips yn cael ei wahardd

Mike Phillips Image copyright AFP
Image caption Mae Phillips wedi chwarae 67 tro dros Gymru

Mae'r mewnwr Mike Phillips wedi ei wahardd gan ei glwb am gyfnod amhenodol.

Daeth cadarnhad gan glwb Bayonne fod Phillips a'r asgellwr Cedric Haymans wedi eu gwahardd.

Yn ol gwefan Sud-Ouest mae Phillips, 30 oed, wedi derbyn dirwy a chael ei wahardd am "ymddygiad annerbyniol oddi ar y cae" yn ôl Llywydd y clwb, Alain Afflelou.

Bydd y clwb yn rhyddhau datganiad ynghylch y mater maes o law.

Y Llewod

Ymunodd Phillips Bayonne o'r Gweilch yn 2011.

Ym mis Mehefin 2011 cafodd Phillips, sydd wedi chwarae 67 tro dros Gymru a thair gwaith dros y Llewod, ei wahardd o garfan Cymru am gyfnod.

Ar y pryd dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod Phillips wedi ei wahardd oherwydd iddo fethu âa chadw at "y safon rydym yn ei disgwyl gan rywun sy'n aelod o'r garfan genedlaethol".

Daeth y gwaharddiad ar ôl nifer o straeon a lluniau trydar ynglŷn â digwyddiad y tu allan i glwb nos yng Nghaerdydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.