Legionella: Ysbyty Llandrindod yn ailagor

Llandrindod Wells Hospital Image copyright Powys Teaching Health Board
Image caption Cafodd y bacteriwm ei ddarganfod yn Ysbyty Llandrindod ym Mhowys

Mae ysbyty lle daethpwyd o hyd o hyd i facteriwm legionella, yn y system ddŵr yn derbyn cleifion unwaith yn rhagor.

Cafodd yr haint, sy'n gallu achosi clefyd y llengfilwyr, ei ganfod yn Ysbyty Llandrindod ym Mhowys tua phythefnos yn ôl yn dilyn pryderon ynghylch safon ddŵr yno.

Dywedodd swyddogion Bwrdd Iechyd Addysgol Powys y byddan nhw'n parhau i fonitro'r cyflenwad dŵr.

Cafodd dŵr potel ei ddefnyddio i olchi tra bod y system ddŵr yn cael ei thrin.

Ffliw

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Hoffwn ddiolch i'r staff, y cleifion ac ymwelwyr am eu dyfal barhad yn y cyfnod diweddar.

"Fe fyddwn ni'n parhau i fonitro'r cyflenwad dŵr i sicrhau nad oes perygl i gleifion, staff ac ymwelwyr yn cael eu peryglu."

Gallai'r bacteriwm achosi clefyd y llengfilwyr, sy'n dechrau gyda symptomau tebyg i'r ffliw.

Mae pedwar achos o glefyd y llengfilwyr yn cael eu hymchwilio yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.