Y Pro 12: Y Dreigiau 32-12 Caeredin

Lewis Evans Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Y blaenwr Lewis Evans ar garlam

Ar ôl colli tair gêm yn olynol roedd y Dreigiau yn dathlu nos Wener gyda buddugoliaeth dros Gaeredin.

Unig newyddion drwg y noson oedd anaf i'r blaenwr Dan Lydiate.

Phil Price sgoriodd unig gais y tîm cartref, gyda Tom Brown a Tim Visser yn croesi i'r ymwelwyr.

Ond fe giciodd Tom Prydie yn wych - chwe cic gosb yn ychwanegu at y sgôr, ac roedd yna dair gôl adlam i Steffan Jones.

Cafodd Lydiate ei gario o'r maes yn yr hanner cyntaf gydag anaf i'w goes chwith.

Daeth cais y prop Price yn yr hanner cyntaf. Fe ddaeth y bel yn ôl iddo ar ôl tafliad i'r llinell a rhedodd 30 metr cyn sgorio, gan roi'r Dreigiau 17-7 ar y blaen ar yr egwyl.

Dreigiau: Dan Evans; Adam Hughes, Pat Leach, Andy Tuilagi, Tom Prydie; Steffan Jones, Jonathan Evans; Phil Price, Steve Jones, Dan Way, Ian Nimmo, Adam Jones, Dan Lydiate, Toby Faletau, Lewis Evans (capt).

Eilyddion: Sam Parry, Aaron Coundley, Nathan Buck, Jevon Groves, Tom Brown, Liam Davies, Ashley Smith, Will Harries.

Caeredin: Greig Tonks; Tom Brown, Nick De Luca, Ben Atiga, Tim Visser; Harry Leonard, Richie Rees; Allan Jacobsen, Andy Titterrell, Geoff Cross, Robert McAlpine, Sean Cox (capt), Stuart McInally, Ross Rennie, Netani Talei.

Eilyddion: Alun Walker, John Yapp, Lewis Niven, Dimitri Basilaia, Roddy Grant, Chris Leck, John Houston, Dougie Fife

Straeon perthnasol