Dwy bianydd yn derbyn ysgoloriaeth er cof am athro cerdd

Ben Muskett Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Roedd dylanwad Ben Muskett ar ei ddisgyblion yn aruthrol

Dwy bianydd yw'r cyntaf i dderbyn ysgoloriaeth er cod am athro cerdd a gafodd ei ladd mewn damwain y llynedd.

Roedd Ben Muskett yn 25 oed ac yn bennaeth cerdd yn Ysgol Llanidloes ac yn diwtor piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.

Cafodd ei ladd ar ôl i'w gar daro coeden ar yr A470 yng Nganllwyd ger Dolgellau ym mis Ionawr 2011.

Roedd yn teithio i Lanidloes o gartref y teulu ym Methesda.

Wedi ei farwolaeth fe sefydlwyd cronfa i gynnal Ysgoloriaeth Ben Muskett.

Derbyniodd Gwenno Morgan o Fangor a Cathryn Jenkins o Lanidloes yr ysgoloriaeth.

'Cefnogaeth i'r ifanc'

Ym mis Gorffennaf y derbyniodd Gwenno, 13 oed, ei gwobr o £100 ac fe dderbyniodd Cathryn, 15 oed, ei gwobr hi rai dyddiau'n ôl.

"Dyma'n ffordd ni o anrhydeddu angerdd Ben at gerddoriaeth a dysgu plant a phobl ifanc," meddai Meinir Llwyd, cyfarwyddwr cerdd Canolfan William Mathias.

"Y bwriad yw gallu cynnig rhywfaint o gefnogaeth i bianyddion ifanc talentog."

Cafodd Gwenno ei dysgu gan Mr Muskett.

Dywedodd ei bod yn hapus iawn o fod yn derbyn yr ysgoloriaeth.

"Mae'n golygu cymaint i mi dderbyn yr ysgoloriaeth newydd yma am y tro cyntaf."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.