Anwybyddu’r busnesau bach yng Nghymru

  • 30 Medi 2012
Siop Siocled Dinbych
Mae'r siop yma yn Ninbych yn enghraifft o fusnes bach

Mae busnesau bach yng Nghymru mewn perygl o gael eu hanwybyddu, er gwaethaf y ffaith iddyn nhw fod yn allweddol i ffyniant economaidd y wlad.

Mae rhai o arweinwyr y sector busnesau bach yn bryderus ynglŷn â newid rheolau'r asiantaeth Cyllid Cymru a chred Ffederasiwn y Busnesau Bach, nad oes 'na ddigon yn cael ei wneud i helpu'r cwmnïau drwy'r ddrycin economaidd.

Mae bron i 95% o gwmnïau Cymreig yn cyflogi llai na naw o bobl.

Cafodd Cyllid Cymru ei sefydlu yn benodol i gynorthwyo cwmnïau bach.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i newid y rheolau, a chaniatáu i'r asiantaeth i gynorthwyo busnesau mwy eu maint.

Mantais hynny yn ôl y Gweinidog Busnes Edwina Hart, ydi fod defnyddio'r arian yn "fwy hyblyg" ond na fydd y penderfyniad yn golygu llai o arian i'r cwmnïau llai.

Busnesau Micro

Mae Mark Young yn berchen Siop Siocled Dinbych ac yn Is-Gadeirydd Grŵp Busnes y dref.

Mark Young
Dydi Mark Young ddim yn cyflogi mwy 'na naw o bobl

"Mae'n amhosibl i fusnesau gael credyd gan y banciau," meddai.

Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen BBC Cymru The Politics Show dywedodd nad oedd modd benthyg er mwyn prynu mwy o stoc ar gyfer cyfnodau prysur megis Gŵyl San Ffolant.

"Yn y gorffennol, pe bai chi'n mynd i'r banc gyda chynllun busnes call, roedd modd cael arian ar delerau fforddiadwy.

"Roedd hi'n anodd yn yr 1980au a'r 1990au, ond dwi o'r farn fod rhedeg busnes rwan yn fwy anodd ac mae'n amhosibl benthyg arian gan y banciau."

Mae siop Mark Young yn enghraifft o fusnes sy'n cyflogi llai na naw o bobl.

Yn ôl ffigurau gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, mae 'na fwy o geisiadau am fenthyciadau gan gwmnïau yng Nghymru na mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Gyfunol.

Ac mae'r cwmnïau yn ei chael hi'n fwy anodd i gael benthyciad neu mae telerau'r benthyciad yn rhy ddrud.

Newid rheolau

Dywedodd Iestyn Davies mewn cyfweliad ar gyfer y rhaglen, nad oes modd amau ymrwymiad gwleidyddol o gyfeiriad San Steffan neu Gaerdydd i geisio datrys yr argyfwng cyllid.

Iestyn Davies
Dywed Iestyn Davies bod hi'n wendid nad yw Cyllid Cymru yn cyrraedd y busnesau bach

"Y cwestiwn yw sut mae gwneud hynny o gofio mai'r unig asiantaeth yng Nghymru ydi Cyllid Cymru.

"Mae Cyllid Cymru o gymorth ar gyfer cynlluniau cyfalaf neu lle mae cwmni am brynu cwmni arall.

"Mae 'na wendid fodd bynnag gan nad yw Cyllid Cymru yn cyrraedd y busnesau bychain."

Mae Cyllid Cymru wedi croesawu'r penderfyniad iddyn nhw fod yn fwy hyblyg yn y modd maen nhw'n gweithredu.

Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus dros y ddegawd ddiwethaf medda' nhw: gwerth £27 miliwn o bynnau o fuddsoddiadau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fydd y penderfyniad i ymestyn cylch gorchwyl yr asiantaeth Gyllid yn cael unrhyw effaith ar eu gallu i fod o gymorth i fusnesau bach.