Mwy o amser i'r heddlu holi dyn ar amhueaeth o lofruddiaeth

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth wedi cael mwy o amser i holi dyn 39 oed.

Cafodd y dyn o ardal Cwmbrân ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yn y dref ddydd Gwener.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth wedi iddyn nhw gael eu galw i gyfeiriad yn Maendy Way, Pontnewydd, tua 10am.

Credir bod y dyn a fu farw yn ei 40au.

Dydi o ddim wedi cael ei adnabod yn swyddogol eto.

Mae archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal ond doedd dim modd canfod achos ei farwolaeth.

Bydd profion ychwanegol yn cael eu cynnal.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.