Yr heddlu yn cyhoeddi enw'r dyn fu farw yng Nghwmbrân

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw'r dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw yng Nghwmbrân yr wythnos diwethaf.

Cafodd corff Jeremy Vaughan, 42 oed, ei ddarganfod yn ardal Pontnewydd fore Gwener.

Does gan Mr Vaughan ddim cyfeiriad penodol ond bu'n aros yn ardal Casnewydd yn ddiweddar.

Cafodd yr heddlu ragor o amser i holi dyn 39 oed, ar amheuaeth o'i lofruddio.

Mae swyddogion yr heddlu yn cynorthwyto teulu Mr Vaughan.

Parhau i apelio am wybodaeth y mae'r heddlu wedi iddyn nhw gael eu galw i gyfeiriad yn Maendy Way, Pontnewydd, tua 10am

Mae archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal ond doedd dim modd canfod achos ei farwolaeth.

Bydd profion ychwanegol yn cael eu cynnal.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.