Dyn 19 oed mewn cyflwr difrifol wedi damwain car

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl damwain car ym Merthyr Tudful.

Cafodd dyn 19 oed ei anafu ac mae mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ar ôl y ddamwain bore Sadwrn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw, ar ôl i gar Vauxhall Corsa daro ffens Ysgol Uwchradd Pen-y-dre tua 3.50am.

Mae'r Heddlu'n apelio am wybodaeth i'r hyn ddigwydd yn ardal Y Gurnos.

Mae dau ddyn arall oedd yn y car yn cael eu holi gan yr heddlu.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu 029 2022 2111 est 42323.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.