Canfod corff dyn yn Sir Benfro wrth chwilio am Darren Morgan

Mae'r heddlu wedi canfod corff y maen nhw'n credu ydi dyn coll o Sir Benfro.

Cafodd y corff ei ganfod mewn ardal goediog ar gyrion Doc Penfro.

Bu'r heddlu yn chwilio am Darren Morgan, 22 oed ers iddo ddiflanu dros wythnos yn ôl.

Cafodd y corff ei ganfod ddydd Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cysylltu gyda theulu Mr Morgan.

Dydi'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol.

Cafodd y crwner ei hysbysu a dywedodd yr heddlu nad oes 'na amgylchiadau amheus.

"Mae'n meddyliau a'n cydymdeimlad gyda theulu Mr Morgan," meddai'r Sarjant Steve Williams o Heddlu Dyfed Powys.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cynorthwyo gyda'r chwilio," ychwanegodd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.