Rhyddhau dyn yn ddi-gyhuddiad wedi i ddyn arall farw yng Nghwmbrân

Jeremy Vaughan Image copyright Heddlu Gwent
Image caption Mae'r heddlu eisiau siarad efo unrhyw un welodd Jeremy Vaughan yn ystod y mis diwethaf

Mae'r dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yng Nghwmbrân wedi ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Cyhoeddodd Heddlu Gwent mai corff Jeremy Vaughan, 42 oed, gafodd ei ddarganfod yn ardal Pontnewydd fore Gwener.

Does gan Mr Vaughan ddim cyfeiriad penodol ond bu'n aros yn ardal Casnewydd yn ddiweddar.

Roedd yr heddlu wedi cael rhagor o amser i holi'r dyn 39 oed, ar amheuaeth o'i lofruddio nos Sadwrn ond cafodd ei ryddhau ddydd Sul.

Mae swyddogion yr heddlu yn cynorthwyto teulu Mr Vaughan.

Parhau i apelio am wybodaeth y mae'r heddlu wedi iddyn nhw gael eu galw i gyfeiriad yn Ffordd Maendy, Pontnewydd, tua 10am ddydd Gwener.

Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gydag unrhyw un fu mewn cysylltiad neu a welodd Mr Vaughan yn ystod y mis diwethaf.

Mae archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal ond doedd dim modd canfod achos ei farwolaeth.

Bydd profion ychwanegol yn cael eu cynnal.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.