Keith Davies AC Llanelli yn yr ysbyty

Keith Davies
Image caption Aed â Mr Davies i'r ysbyty ddydd Mercher

Mae AC Llanelli Keith Davies mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Athrofal Cymru yng Nghaerdydd.

Aed ag ef i'r ysbyty ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae profion yn cael eu cynnal yn yr uned llawdriniaeth niwrolegol.

"Dymuna teulu Keith a Llafur Cymru ddiolch i'r rhai sydd wedi anfon negeseuon o ewyllys da a chefnogaeth."

Mae'r BBC yn deall fod Mr Davies, 71 oed, yn ddifrifol wael.

Cafodd Mr Davies ei ethol i gynrychioli Llanelli yn 2011 ar ôl curo Helen Mary Jones, Plaid Cymru o 80 pleidlais.

Cyn hynny bu'n gynghorydd sir yn cynrychioli ward Hengoed Llanelli rhwng 2004 a 2008.

Mae hefyd yn gyn gyfarwyddwr addysg yn Sir Gaerfyrddin a Morgannwg Ganol.