Buwch yn cael ei difa

Heddlu Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dywedodd yr heddlu eu bod yn poeni am ddiogelwch y cyhoedd

Mae'r heddlu wedi dweud bod buwch ddihangodd o farchnad anifeiliaid yn Y Trallwng ym Mhowys wedi cael ei difa.

Ar ôl dianc tua 9.10am fore Llun fe aeth y fuwch ar hyd ffyrdd cyhoeddus cyn cyrraedd ardal Gungrog o'r dref.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn poeni am ddiogelwch y cyhoedd ac aelodau'r heddlu a bod risg y byddai'r fuwch yn achosi difrod i eiddo.

"Cafodd nifer o opsiynau eu hystyried wrth geisio dal yr anifail ond doedd yr un o'r opsiynau yn ymarferol," meddai llefarydd.

"Ar ôl derbyn cyngor arbenigwyr yr unig opsiwn oedd difa'r anifail ..."