Ymosodiad ar gerddor ym Mangor : Apêl am wybodaeth

Canolfan reoli
Image caption Roedd yr ymosodiad wrth iddo gerdded adre' o glwb nos

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar gerddor oedd yn gorfod cael "llawdriniaeth gymhleth".

Roedd yr ymosodiad ar y myfyriwr cerdd 18 oed wrth iddo gerdded adre' o Glwb Nos Peep ym Mangor yn oriau mân ddydd Gwener.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Arwel Jones: "Mi dorrodd ei fys ac roedd angen llawdriniaeth gymhleth.

"Mi allai hyn ddifetha ei yrfa ac mae ei deulu'n poeni'n fawr. Mi oedd yr ymosodiad yn gwbwl ddireswm."

Roedd yr ymosodiad, meddai, am 2am tu allan i Subway lle oedd nifer o gwsmeriaid ar y pryd.

Dywedodd fod yr ymosodwr yn ei ddauddegau cynnar, tua chwe throedfedd o daldra, yn gyhyrog a chanddo wallt tywyll byr.

Roedd yn lleol ac yn gwisgo crys-T a thrwser tywyll.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111. Y cyfeirnod yw RC12161501.