40 o swyddi yn y fantol

Llefrith mewn oergell Image copyright bbc
Image caption Mae'r hufenfa yn cyflogi cyfanswm o 140 o weithwyr

Fe allai hyd at 40 o swyddi fod mewn perygl yn Hufenfa De Arfon yn Chwilog ger Pwllheli.

Bydd cyfarfod staff yn cael ei gynnal yn yr Hufenfa brynhawn Mawrth pan fydd y rheolwyr yn egluro wrth y gweithwyr fod cwmni oedd â chytundeb i brynu hanner llaeth yfed y ffatri wedi penderfynu dod â'u cytundeb i ben ddiwedd y mis.

Mae'r hufenfa yn cyflogi cyfanswm o 140 o weithwyr, un o gyflogwyr mwyaf Llŷn ac Eifionydd.

Fe fydd staff yn clywed bod dau ddewis yn wynebu rheolwyr; naill ai i barhau gyda gweddill y busnes llaeth, neu i werthu gweddill y busnes llaeth i brosesydd arall.

Mae disgwyl penderfyniad ymhen pythefnos.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Alun Rhys yn adrodd yr hanes ar y Post Cyntaf.

65 miliwn litr

Fe fydd y gwaith o gynhyrchu caws yno yn parhau.

Mae 65 miliwn litr o laeth yn cael eu prosesu i gaws yno yn flynyddol o dan label 'Dragon'.

Yr hufenfa yn Rhydygwystl, Chwilog, ydi'r unig gwmni sy'n casglu llefrith, ei brosesu a'i bacio yng Nghymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.