Diffodd adweithydd niwclear Wylfa

Wylfa
Image caption Cafodd adweithydd 2 ei ddiffodd yn barhaol yn gynharach eleni

Mae cwmni Magnox wedi diffodd adweithydd yn atomfa'r Wylfa ar Ynys Môn yn dilyn trafferthion wrth osod tanwydd ynddo.

Cafodd yr adweithydd ei ddiffodd brynhawn Sul, yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.

Dywedodd: "Mae ymchwiliad wedi dechrau i ganfod natur y broblem a beth sydd wedi ei achosi.

"Fel arfer nid ydym yn medru rhoi amcangyfrif pryd y bydd yr adweithydd yn ail-ddechrau gweithio."

Mae adweithydd 1 yn Wylfa yn rhedeg dau dyrbin, gyda'r ddau yn gallu cynhyrchu 310MW o ynni.

Dyma'r unig adweithydd gweithredol ar y safle.]

Fe gafodd adweithydd 2 ei ddiffodd yn barhaol yn gynharach eleni er mwyn diogelu'r cyflenwad o'r tanwydd Magnox sydd ddim yn cael ei gynhyrchu bellach.

Mae'r adweithydd yn cael ei ddiffodd yn eitha' cyson, yn aml ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu er mwyn ail lwytho tanwydd.

Straeon perthnasol