Pleidleisio ar y Bil Ieithoedd Swyddogol

Adeilad y Senedd Image copyright bbc
Image caption Trafodion a llywodraethu mewnol y Cynulliad Cenedlaethol a'r Comisiwn sy'n dod o fewn cwmpas y Bil

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio ar y Bil Ieithoedd Swyddogol yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddydd Mercher.

Diben y Bil yw "diogelu'n gyfreithiol ymrwymiad y Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad i fod yn sefydliad dwyieithog sydd â'r Saesneg a'r Gymraeg yn ieithoedd swyddogol".

Cafodd y Bil, a gynigiwyd gan Rhodri Glyn Thomas AC yn ei rôl fel Comisiynydd y Cynulliad, ei gynnig gan nad yw'r Cynulliad na'r Comisiwn yn dod o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg 2011.

Byddai'r Bil yn golygu bod trafodaethau'r Cynulliad yn y cyfarfodydd llawn yn cael eu cofnodi yn y ddwy iaith.

Ond does dim bwriad i gyfieithu holl drafodaethau pwyllgorau i'r Gymraeg.

'Nawddoglyd'

Mae Rhodri Glyn Thomas wedi dweud: "Mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli nad yw trin ieithoedd yn gyfartal yn golygu gwneud yr union yr un fath yn y ddwy iaith.

"Yn sicr, dwi ddim yn gweld bod cyfieithu i iaith yn gosod unrhyw statws ar iaith ... fe all fod yn weithred nawddoglyd a thocenistaidd."

Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Yn y nawdegau un o addewidion datganoli oedd creu llais newydd i Gymru gyda sefydliad a fyddai â grym dros faterion polisi domestig, ond nid hynny yn unig, byddai'n creu math newydd o wleidyddiaeth.

"Yn anffodus, nid ydy'r addewid hwnnw wedi'i wireddu'n llawn. Rydyn ni wedi gweld mai defnydd isel sydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad.

"Fodd bynnag, diolch i'r Aelodau Cynulliad Aled Roberts a Suzy Davies, mae yna obaith y gallai'r Cynulliad adfer ei enw da heddiw a sicrhau bod cofnod o holl drafodion y Cynulliad yn cael ei gyhoeddi yn llawn yn Gymraeg yr un pryd â'r Saesneg.

Gwelliannau

"Gobeithiwn fod ein gwleidyddion yn deall bod disgwyliadau arnyn nhw i roi cydraddoldeb i'r ddwy iaith ac i arwain y ffordd i'r holl sefydliadau eraill yng Nghymru."

Mae'r Bil ar hyn o bryd yng Nghyfnod 3 proses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Mae'r cyfnod hwn yn galluogi Aelodau'r Cynulliad i gynnig gwelliannau a phleidleisio ar ba rai a gaiff eu hychwanegu at y Bil.

Bydd yr Aelodau wedyn yn pleidleisio ar basio'r Bil wedi'i ddiwygio, sy'n cwblhau Cyfnod 4.

Dim ond trafodion a llywodraethu mewnol y Cynulliad Cenedlaethol a'r Comisiwn sy'n dod o fewn cwmpas y Bil.

Os bydd yr Aelodau yn pleidleisio o blaid y Bil, bydd yn dod yn Ddeddf pan fydd Ei Mawrhydi y Frenhines yn rhoi Cydsyniad Brenhinol iddo.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.