Y Gweilch: Mike Cuddy yn camu'n ôl

Mike Cuddy Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Mike Cuddy yn dal i fod yn gyfarwyddwr a chyfranddalwr y Gweilch

Mae Mike Cuddy wedi camu nôl o fod yn gyd-reolwr cyfarwyddwr rhanbarth rygbi'r Gweilch.

Dywedodd datganiad gan y rhanbarth y bydd Cuddy, oedd wedi bod yn y swydd am bron i ddegawd, hefyd yn "camu nôl o reoli gweithredoedd rygbi'r rhanbarth o ddydd i ddydd".

Y cyd-reolwr cyfarwyddwr arall, Roger Blythe, a'r prif swyddog gweithredol, Andrew Hore, fydd yn rheoli'r clwb o ddydd i ddydd o hyn ymlaen.

Ond bydd Cuddy yn dal i fod yn gyfarwyddwr a chyfranddaliwr y Gweilch.

'Problemau ariannol'

Y gred yw bydd y penderfyniad yn galluogi Cuddy i ganolbwyntio ar ei fuddiannau busnes sy'n cynnwys cwmni adeiladu sydd wedi'i leoli yng Nghastell-nedd.

Dywedodd datganiad Y Gweilch fod y rhanbarth wedi wynebu nifer o heriau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys problemau ariannol.

"Mae'r Gweilch wedi penderfynu ad-drefnu eu strwythur rheoli," meddai'r datganiad.

"Bydd Mike Cuddy yn camu nôl o reoli gweithredoedd rygbi'r rhanbarth o ddydd i ddydd ac fe fydd hefyd yn rhoi'r gorau i'w swydd fel cyd-gyfarwyddwr rheolwr."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.