Pryderon ynghylch newidiadau i raglen Cymunedau'n Gyntaf

Maes chwarae sydd wedi dirywio
Image caption Cafodd cynllun Cymunedau'n Gyntaf ei sefydlu i helpu pobl sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae pryderon wedi cael eu codi ynglŷn ag effaith newidiadau i gynllun Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi parhaus.

Cafodd cynllun Cymunedau'n Gyntaf ei sefydlu yn 2001 i helpu pobl sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Ond mae'r rhaglen yn cael ei weddnewid yn dilyn cyfres o adroddiadau beirniadol.

Mae cyfnod gweithredu yn cael ei gynnal tan ddiwedd mis Ionawr y flwyddyn nesaf lle bydd tua 150 o brosiectau Cymunedau'n Gyntaf yn cael eu cyfuno i 50 cynllun.

Gweithredu cymunedol

Bydd 13 partneriaeth yn dod i ben yn gyfan gwbl am nad ydynt bellach yn gymwys i dderbyn cyllid sydd ar gael i ardaloedd sydd ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Mae cost y cynllun wedi cael ei ostwng o £45m i £40m y flwyddyn.

Dywed Llywodraeth Cymru fod nifer o ddeiliaid diddordeb yn y cynllun wedi cefnogi'r newidiadau ac y bydd gweithredu cymunedol yn dal yn rhan ganolog o'r rhaglen.

Mae mwy na £300m o bunnoedd wedi ei wario gan y partneriaethau yn ystod y degawd diwethaf.

Mae tua 20% o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardal Cymunedau'n Gyntaf gan gynnwys 24 partneriaeth yn ardal Rhondda Cynon Taf ond dim ond un yr un yn Sir Fynwy a Sir Ddinbych.

Ond mae yna bryderon bydd y newidiadau yn golygu na fydd y partneriaethau'n gallu cydweithio â chymunedau yn yr un modd a'r drefn flaenorol.

Bu Christine Thomas yn gadeirydd Bwrdd Gweithredol Cymunedau'n Gyntaf Parc Caia rhwng 2001 a dechrau 2012.

"Rwy'n ofni na fydd trigolion yn cymryd rhan gymaint o dan y drefn newydd," meddai.

"Rwy'n gobeithio na fydd fy mhryderon yn cael ei wireddu ac rwy'n ffyddiog bydd pobl yn sicrhau bydd y gymuned yn rhan o'r rhaglen."

'Lliniaru tlodi'

Yn 2010 cyhoeddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad un o'r adroddiadau mwyaf damniol ynglŷn â'r rhaglen a ddywedodd fod y rhaglen wedi methu sicrhau gwerth am arian.

Canfu'r asesiad diweddaraf fod dwy ran o dair o'r partneriaethau'n perfformio'n dda ond bod yna 'bryderon sylweddol' ynghylch tuag wyth ohonynt.

Yn ôl Dave Adamson, Prif Weithredwr Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, ac un o'r tîm wnaeth helpu creu Cymunedau'n Gyntaf yng Nghymru yn 2001, fod y rhaglen dim ond yn rhan o'r strategaeth i daclo tlodi.

"Ddylai'r rhaglen fyth wedi cael ei hystyried fel moddion i wella popeth o ran tlodi.

"Ond mae angen i'r rhaglen fod yn rhan o'r strategaeth i liniaru tlodi gan gynnwys yr agenda iechyd, addysg a sgiliau.

"Pan fydd Cymunedau'n Gyntaf yn dod i'r afael â hynny dyna pryd y byddwn ni'n gweld y canlyniadau gorau."

Cymunedau Iachach

Yn awr nod Cymunedau yn Gyntaf yw cyfrannu, ochr yn ochr â rhaglenni eraill, at leihau'r bylchau addysg/sgiliau, economaidd ac iechyd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a chyfoethog.

Tri amcan strategol y rhaglen i helpu cyflawni'r canlyniadau hyn yw Cymunedau Ffyniannus, Cymunedau Dysgu a Chymunedau Iachach.

Dywedodd Helen Cocks, cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Cymunedau Gibbonsdown a Court gallai'r newidiadau fod o fudd i gymunedau.

"Bydd bod yn rhan o gynllun mwy yn fuddiol o ran cynnig mwy o gyfleoedd i bobl sy'n byw mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae nifer o ddeiliaid diddordeb wedi cefnogi'r newidiadau yn dilyn ymgynghoriad dwys yn 2011.

"Bydd gweithredu cymunedol yn dal yn rhan ganolog o'r rhaglen.

"Rydym am weld mwy o bobl leol yn cymryd rhan yn weithredoedd Cymunedau'n Gyntaf ac fe fydd pob clwstwr yn datblygu cynllun cynnwys cymunedau."

Straeon perthnasol