Cystadleuaeth y Pro12

Jonathan Thomas Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Jonathan Thomas yn ymosod dros y Gweilch

Gleision Caerdydd 3-18 Glasgow

Fe wnaeth canolwr Glasgow, Peter Horne, lwyddo gyda chwe chic gosb ar Barc yr Arfau wrth i Glasgow danlinellu gwendidau'r Gleision.

Manteisiodd yr ymwelwyr ar sgrym wan y Gleision wrth i Horne lwyddo gyda phedair cic yn yr hanner cyntaf.

Unig sgôr y tîm cartref oedd cic gosb gan Leigh Halfpenny cyn yr egwyl.

Ond gyda'r ddau dîm yn methu â chroesi am gais, sicrhaodd Horne fuddugoliaeth gyda dwy gic gosb arall.

Hwn oedd y trydydd tro i'r Gleision golli adref y tymor hwn, ar ôl cael eu chwalu 19-48 gan Ulster yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r pwysau yn cynyddu ar ysgwyddau'r brif hyfforddwr, Phil Davies.

Zebre 16-34 Gweilch

Ar ôl dechrau gwael i'r tymor, mae'r Gweilch wedi ennill eu trydedd gêm yn olynol drwy guro'r Zebre yn yr Eidal.

Dan Biggar oedd yr arwr gyda 24 pwynt, gan gynnwys un cais, pum gôl gosb a dau drosiad.

Ond Richard Fussell gafodd y cais cyntaf i'r Gweilch yn yr hanner cyntaf a gafodd ei reoli gan yr ymwelwyr.

Sgoriodd Jonathan Thomas ail gais y Gweilch, oedd yn croesawu'r prop Adam Jones i ddechrau am y tro cyntaf y tymor hwn, eiliadau cyn yr egwyl.

Yn yr ail hanner, daeth Zebre yn ôl i'r gêm dioch i gais Luca Redolfini, ond ychwanegodd Biggar gais arall cyn y diwedd i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Scarlets 24-13 Dreigiau

Y tîm cartref reolodd yr hanner cyntaf ar Barc y Scarlets yn Llanelli.

Daeth cais i Gareth Maule, a thair gôl gosb a throsiad i Aled Thomas i roi'r Scarlets 16-3 ar y blaen ar yr egwyl yn erbyn y Dreigiau oedd heb Dan Lydiate wedi iddo yntau dorri ei ffêr y penwythnos diwethaf.

Ond fe ddaeth y Dreigiau yn ôl iddi gan gau'r bwlch i driphwynt yn unig ar un adeg diolch i gais Dan Evans a throsiad Tom Prydie.

Daeth Morgan Stoddart i'r maes fel eilydd yn ail gyfnod, a fe groesodd am y cais tyngedfennol, ac fe sgoriodd eilydd arall, Rhys Priestland, gôl gosb i sicrhau bod y Dreigiau yn gadael Llanelli'n waglaw.

Gemau eraill

Mae Ulster yn parhau ar frig y tabl yn dilyn buddugoliaeth hawdd o 25-0 yn erbyn Connacht yn Ravenhill.

Ond roedd ychydig o syndod ym Murrayfield wrth i Treviso ddilyn eu buddugoliaeth yn erbyn y Scarlets wythnos yn ôl gyda buddugoliaeth arall yng Nghaeredin o 27-22.

CANLYNIADAU GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 28/29/30 Rhag. 15/16/17 Chwe. 23/24/25 Tach. 4/5/6 Ion. 18-23 26/27/28 Hyd. 22-27 22/23/24 Maw. 41-10
Connacht 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 3/4/5 Mai 9-13 15/16/17 Chwe. 34-6 21/22/23 Rhag. 11-24 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 32-12 23/24/25 Tach. 15/16/17 Chwe. 5-16 21/22/23 Rhag. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 26/27/28 Hyd. 37-6
Glasgow 21/22/23 Rhag. 27-17 2/3/4 Tach. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 23/24/25 Tach. 29/30/31 Maw. 13-18 4/5/6 Ion. 22/23/24 Chwe. 22-19
GLEISION 19-21 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Rhag. 3-18 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 34-18 19-48 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 10-28 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach. 30-15 28/29/30 Rhag. 12/13/14 Ebr. 13-16 4/5/6 Ion.
Leinster 22-16 28/29/30 Rhag. 45-25 22/23/24 Maw. 26/27/28 Hyd. 3/4/5 Mai 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag.
Munster 8/9/10 Chwe. 22/23/24 Maw. 33-13 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 23/24/25 Tach. 19-6 28/29/30 Rhag. 26/27/28 Hyd.
SCARLETS 1/2/3 Maw. 8/9/10 Chwe. 24-13 12/13/14 Ebr. 21/22/23 Rhag. 16-23 45-20 15/16/17 Chwe. 3/4/5 Mai 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach.
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 12-6 18-19 22/23/24 Chwe. 22-20 23/24/25 Tach. 28/29/30 Rhag.
Ulster 2/3/4 Tach. 25-0 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 8/9/10 Chwe. 21/22/23 Rhag. 20-19 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 15/16/17 Chwe.
Zebre 29/30/31 Maw. 17-30 22/23/24 Chwe. 8/9/10 Chwe. 23/24/25 Tach. 16-34 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 21/22/23 Rhag. 18 Tach.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.