Seintiau ar y brig

Uwchgynghrair Cymru Image copyright Not Specified

Cei Cona 1-3 Seintiau Newydd

Roedd hon yn fuddugoliaeth gyfforddus i'r Seintiau, gyda gôl i'w rwyd ei hun gan Danny Dobbins (18 munud), Michael Wilde (65') ac Aeron Edwards (85') yn sicrhau buddugoliaeth, gyda gôl gysur i'r tîm cartref gan Michael Robinson (90'+2)

Airbus UK Brychdyn 1-1 Llanelli

Wayne Riley a roddodd Airbus ar y blaen wedi 14 munud, gyda Chris Venables yn sicrhau pwynt wedi 76 munud.

Y Drenewydd 1-4 Prestatyn

Cafwyd goliau gan Jason Price (39'), Greg Stones (48'), a dwy gôl gan Parkinson (62', 80') i'r ymwelwyr gyda Zac Evans yn sgorio i'r Drenewydd wedi 67 munud.

Bangor 5-0 Y Bala

Mae rhediad 100% Bangor ar eu tomen eu hunain yn parhau wedi buddugoliaeth swmpus yn erbyn Y Bala nos Wener.

Roedd y dinasyddion ar y blaen wedi dim ond tri munud wrth i Sion Edwards sgorio yn stadiwm The Book People.

Erbyn yr egwyl, roedd y gêm drosodd i bob pwrpas wrth i Chris Jones, Liam Brownhill a Chris Simm o'r smotyn ychwanegu tair arall i'w gwneud hi'n 4-0.

Chris Simm yw prif sgoriwr Uwchgynghrair Cymru, ac fe ychwanegodd ei ail yn y gêm wedi 74 munud i sicrhau noson ddiflas dros ben i'r Bala.

Port Talbot 2-1 Caerfyrddin

Wedi hanner cyntaf digon difflach, fe aeth Caerfyrddin ar y blaen y Stadiwm Genquip wrth i Leon Jeanne rwydo i Gaerfyrddin o'r smotyn wedi 67 o funudau i roi gobaith i'r ymwelwyr o gipio'r pwyntiau llawn.

Ond o fewn saith munud roedd hi'n gyfartal. Carl Payne yn unioni'r sgôr i Port Talbot.

I wneud pethau'n waeth, fe welodd golwr Caerfyrddin, Stephen Cann, gerdyn coch wedi 79 munud am drosedd ddifrifol.

Yna gyda wyth munud o'r gêm yn weddill daeth torcalon i'r ymwelwyr wrth i Lee John sgorio eto i roi buddugoliaeth i'r tîm cartref.

Aberystwyth 4-2 Lido Afan

Wedi cyfres o ganlyniadau gwael, roed Aberystwyth yn gobeithio'r gorau wrth groesawu Lido Afan i Goedlan y Parc.

Roedd pethau'n mynd yn dda wrth i Wyn Thomas a Jordan Follows eu rhoi 2-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Ac yn Aberystwyth y daeth y goliau fel y glaw wedi'r egwyl. Gavin Cadwallader i ddechrau i'w gwneud hi'n 3-0 cyn i Chris Hartland gael un yn ôl i'r ymwelwyr.

Sgoriodd Glyndwr Hughes y bedwaredd i Aber wedi 66 munud, ac fe ddaeth gôl gysur arall i Lido Afan wrth i Anthony Rawlings sgorio'n hwyr yn y gêm.

Trefn gemau a chanlyniadau Uwchgynghrair Cymru - Tymor 2012/13
ABR AFA AIR BAL BAN CAR CCN LLA DRE PTT PRT YSN
Aberystwyth 4-2 Rhag.15 1-1 0-0 Hyd.27 Tach.24 0-2 Rhag.26 0-5 Ion.5 Hyd.19
Lido Afan Rhag.21 Hyd.13 1-0 Tach.24 2-1 Rhag.1 Ion.19 2-3 Rhag.26 Hyd.27 1-3
Airbus 5-1 Ion.5 1-0 2-3 1-2 Rhag.26 1-1 Tach.30 Tach.24 Hyd.19 Hyd.26
Bala Tach.3 Tach.18 0-2 Rhag.22 3-0 Ion.19 Rhag.15 4-4 Hyd.14 1-2 Ion.1
Bangor 7-1 4-1 Tach.16 5-0 Rhag 15 2-1 Hyd.13 Tach.2 Ion.19 Ion.1 Rhag.1
Caerfyrddin 2-0 1-1 Tach.3 Rhag.1 0-1 Hyd.13 Rhag.26 Ion.19 Rhag.21 Tach.17 0-0
Cei Connah 1-2 6-2 Ion.1 Hyd.19 Hyd.26 Ion.5 3-1 Tach.17 2-0 Rhag.14 1-3
Llanelli Tach.30 Hyd.19 Rhag.23 1-4 Ion.5 Ion.29 Tach.11 0-3 Hyd.26 2-2 Tach.17
Drenewydd Ion.1 Rhag.15 1-7 Hyd.27 3-2 Hyd.20 1-3 Tach.24 1-1 1-4 Ion.6
Port Talbot Tach.17 Ion.1 4-4 Ion.5 Hyd.20 2-1 Tach.3 1-2 1-0 Medi 22 Rhag.15
Prestatyn Hyd.13 4-2 Ion.19 Tach.24 Rhag.26 7-1 4-1 Tach.3 Rhag.22 1-1 1-0
Seintiau Ion.19 Tach.3 1-0 Rhag.26 3-0 Tach.24 Rhag.22 0-0 Hyd.13 5-0 4-1

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.