Abertawe 2-2 Reading

Roedd Yr Elyrch yn hyderus o gael triphwynt yn erbyn Reading yn y Liberty ddydd Sadwrn, ond bu'n rhaid brwydro nôl o fod dwy gôl ar ei hôl hi er mwyn sicrhau pwynt.

Pavel Pogrebnyak roddodd Reading ar y blaen wedi 30 munud wrth i'r bêl lithro o dan Michel Vorm oedd yn gwybod y dylai fod wedi gwneud yn well.

Cafwyd cyfres o arbediadau da gan Alex McCarthy i gadw Abertawe rhag sgorio, cyn i Noel Hunt ddyblu'r fantais wedi 43 munud gydag ergyd o lai na chwe llath i gornel chwith uchaf y rhwyd.

Rhoddwyd gobaith i'r Elyrch pan beniodd Miguel Michu i'r rhwyd ar ôl i'r bêl adlamu yn garedig iddo wedi 70 munud, cyn i Wayne Routledge achub pwynt wrth rwydo y tu mewn i'r cwrt cosbi i ganol y gôl saith munud yn ddiweddarach.

Mae mis mêl y rheolwr Michael Laudrup yn sicr ar ben ond er nad ydi hi'n argyfwng, gyda'r tîm yn yr 11fed safle yn tabl, fe fyddai buddugoliaeth cyn hir yn rhoi hwb sylweddol.

TABL UWCHGYNGHRAIR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Chelsea 7 11 19
2. Man City 7 7 15
3. Everton 7 6 14
4. West Brom 7 4 14
5. Man Utd 6 5 12
11. ABERTAWE 7 1 8

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.