April: Mark Bridger o flaen llys

Mark Bridger Image copyright Dyfed Powys Police
Image caption Fe fydd yn ymddangos ger bron ynadon Aberystwyth ddydd Llun

Fe fydd Mark Bridger, 46 oed, yn ymddangos ger bron ynadon Aberystwyth ddydd Llun wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones.

Ddydd Sadwrn, fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys hefyd ei gyhuddo o'i chipio yn ogystal â cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd y ferch bum mlwydd oed ei chipio ger ei chartref ar ystâd Bryn y Gog ym Machynlleth nos Lun.

Bydd y chwilio yn parhau amdani, a dywedodd yr heddlu eu bod yn dal yn benderfynol o ddod o hyd iddi.

Nos Sul, cafwyd cadarnhad y bydd y timau achub mynydd yn rhoi'r gorau i fod yn rhan o'r chwilio amdani.

Yn ôl llefarydd ar eu rhan, mae'r gwaith o chwilio bellach yn gweddu fwy i swyddogion arbenigol yr heddlu.

1,000 o bobl

Ddydd Sul roedd tua 1,000 o bobl mewn gwasanaeth eglwys arbennig ym Machynlleth, y tu mewn a thu allan Eglwys San Pedr yng nghanol y dref.

Cyn hynny, cafwyd gorymdaith o ystâd Bryn-y-Gog, lle mae teulu'r ferch fach bump oed yn byw, i'r eglwys.

Mae cronfa gyhoeddus wedi ei sefydlu ar gyfer teulu a chyfeillion April er mwyn i bobl ar draws y DU ddangos eu cefnogaeth.

Dywedodd Cyngor Tref Machynlleth eu bod wedi sefydlu'r gronfa ar ôl derbyn galwadau o bell ac agos gan bobl oedd am roi arian i April a'i theulu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i bobl sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio llinell ffôn arbennig, sef 0300 2000 333.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.