Cyfreithlondeb Mesur: Holi ac Ateb

Senedd Image copyright PA
Image caption Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y ddeddf yn gyfreithlon

Mae'r Ddeddf gyntaf i gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan eu pwerau deddfu newydd yn cael ei herio yn y Goruchaf Lys yn Llundain.

Mae'r Twrnai Cyffredinol yn galw ar y llys i ddyfarnu fod rhannau o'r Mesur Llywodraeth Leol (Is-ddeddfau) y tu hwnt i bwerau'r Cynulliad ac, felly, yn anghyfreithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu ei fod yn gyfreithlon.

Toby Mason, o uned wleidyddol BBC Cymru, sy'n esbonio mwy.

Beth yw'r Mesur?

Mae'n ddarn cymharol syml o ddeddfwriaeth sy'n symleiddio'r ffordd mae cynghorau lleol yn creu is-ddeddfau, gan gael gwared ar yr angen am ganiatâd Gweinidogion Cymru. Y nod yw torri lawr ar fiwrocratiaeth a chyflymu'r broses. Cafodd y Mesur ei gymeradwyo'n unfrydol gan Aelodau Cynulliad ddechrau fis Gorffennaf.

Ond mae'r Mesur yn wynebu trafferthion cyfansoddiadol difrifol o bosib?

Ydy - mae'n ymddangos nawr fod Llywodraeth y DU wedi bod yn rhybuddio Llywodraeth Cymru'n dawel ers misoedd eu bod yn credu bod rhannau o'r Mesur y tu hwnt i bwerau'r Cynulliad. Pam? Oherwydd, yn ogystal â chael gwared ar yr angen i Weinidogion Cymru gadarnhau'r is-ddeddfau sy'n cael eu llunio gan gynghorau, mae hefyd yn cael gwared ar bwerau sy'n dyddio'n ôl i'r adeg cyn datganoli, pan oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru'n gallu eu cadarnhau hefyd. Er bod gan y Cynulliad yr hawl bellach i greu deddfau mewn meysydd datganoledig, heb ganiatâd San Steffan, allan nhw ddim deddfu i newid swyddogaethau gweinidogion San Steffan heb eu caniatâd - ac mae Llywodraeth y DU yn honni bod hynny wedi digwydd yn yr achos hwn.

Felly beth sydd wedi digwydd?

Mae'r Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, wedi defnyddio elfen o Ddeddf Llywodraeth Cymru i'w alluogi i ymyrryd wedi i Ddeddf gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad cyn iddo fynd gerbron y Frenhines. Mae'n golygu y gall gyfeirio'r Mesur, neu rannau ohono, at y Goruchaf Lys os yw'n credu ei fod yn mynd y tu hwnt i bwerau'r Cynulliad. Bydd yr achos yn dechrau ddydd Mawrth, pan fydd Mr Grieve yn amlinellu ei ddadleuon.

Ond mae Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad yn mynnu fod y ddeddf yn gyfreithlon?

Ydyn, maen nhw'n dweud eu bod yn paratoi amddiffyniad cryf. Byddant yn dadlau fod y newidiadau mae'r Mesur yn ei achosi i weinidogion y DU yn "ddamweiniol" neu'n "gyd-ddigwyddiad" mewn perthynas i'r newidiadau i bwerau gweinidogion Cymru. Petai nhw'n dadlau hynny'n llwyddiannus, byddant yn obeithiol y bydd y llys yn ochri gyda nhw. Ond mae rhai arbenigwyr cyfansoddiadol yn amau a fydd y llys yn derbyn y ddadl hon - ond mae'n anodd darogan y canlyniad gan ei fod yn achos mor anghyffredin.

Pa bryd allwn ni ddisgwyl canlyniad a beth fydd yn digwydd wedyn?

Fe fydd 'na dri diwrnod o ddadleuon cyfreithiol o flaen pump o uwch farnwyr, gyda llywodraethau Cymru a'r DU, a Chomisiwn y Cynulliad yn cyflwyno'u dadleuon. Mae gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon hefyd hawl i leisio'u barn. Fydd y llys ddim yn cyhoeddi eu penderfyniad yn syth, ond fe ddylen ni glywed rhywbeth cyn y Nadolig. Os byddan nhw'n ochri gyda Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad, bydd y Mesur yn mynd gerbron y Frenhines cyn dod yn ddeddfwriaeth. Os bydd Llywodraeth y DU yn ennill, yna bydd yn rhaid i'r Cynulliad ddechrau proses o ailystyried y Mesur a phleidleisio eto i newid y rhannau fyddai wedi eu dyfarnu'n anghyfreithlon - rhywbeth allai achosi cryn embaras i bawb.

Allai hyn ddigwydd eto yn y dyfodol?

Mae hwn yn achos cyfyngedig iawn ac ni ddylai gael effaith ar fesurau yn y dyfodol. Ond mae Llywodraeth Cymru'n paratoi i gyhoeddi deddfwriaeth llawer mwy dadleuol yn ymwneud â newid y drefn o roi organau o dan yr hyn maen nhw'n ystyried sy'n bosib fel rhan o'u pwerau ym maes iechyd. Mae'r Twrnai Cyffredinol eisoes wedi mynegi amheuon am hyn - felly gallai'r cyfan arwain at achos arall yn y Goruchaf Lys maes o law.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.