John Davies yw Cadeirydd newydd y Gymdeithas Amaethyddol

John Davies
Image caption Mae John Davies wedi chwarae rhan amlwg ym mywyd gwledig Sir Benfro ers blynyddoedd

Cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro, John Davies, sydd wedi ei benodi yn Gadeirydd newydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Mae Mr Davies yn olynu David Lewis, wnaeth ymddeol o'r swydd fel cadeirydd ond sy'n parhau fel aelod o'r bwrdd.

Bu Mr Lewis yn gadeirydd am chwe blynedd.

Roedd Mr Davies, sy'n ffermio yn Sir Benfro, yn Gadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru tan yn gynharach eleni.

Mae o hefyd yn aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ac yn aelod o Awdurdod Heddlu Cymru.

Ers 1999 mae'r Cymro Cymraeg wedi cynrychioli ward Cilgerran ar Gyngor Sir Benfro.

Mae'r gŵr 49 oed yn ffermio 350 acer yn Eglwyswrw yng ngogledd Penfro gyda'i wraig Bethan, a'u plant Harri ac Esther.

Ers 2008 mae Mr Davies wedi bod yn aelod o fwrdd y Gymdeithas Amaethyddol ac am y 23 mlynedd diwethaf yn stiward yn adran y Ffermwyr Ifanc.

Dywed y Gymdeithas ei fod yn aelod brwdfrydig o Bwyllgor Sir Benfro ac wedi gwneud cyfraniad arbennig i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.