Prifysgol yn aelod o Academi

Prifysgol Glyndŵr

Mae un o brifysgolion Cymru wedi ei derbyn yn aelod cydymaith o Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Niwclear.

Yr Academi sgiliau yw'r corff sy'n cynrychioli'r diwydiant i "symbylu, cyd-lynu a galluogi rhagoriaeth mewn sgiliau i gefnogi'r rhaglen niwclear."

Mae Prifysgol Glyndŵr yn aelod addysg uwch o'r Academi.

Dywed yr Academi fod hyn yn adlewyrchu ymroddiad sefydliadau i gynnig cyrsiau o safon a gwerth i sefydliadau sy'n gweithio o fewn ac yn cefnogi'r diwydiant niwclear.

"Mae 'na gyfloed gwych ar gael ac ar fin dod i'r diwydiant ynni niwclear yng ngogledd Cymru," meddai John Idris Jones, cadeirydd grŵp llywio rhanbarthol Academi Sgiliau Cymru a Chyfarwyddwr Ynys Ynni.

"Mae'r anrhydedd yma yn cydnabod bod Prifysgol Glyndŵr mewn lleoliad gwych i gynnig gweithwyr gyda'r sgiliau ucha' a'r cymwysterau gorau."

Darparu graddedigion

Dywedodd bod gan y brifysgol hanes wych am wyddoniaeth, technoleg a pheirianwaith.

Image copyright Academi Sgiliau Cenedlaethol
Image caption John Idris Jones o Ynys Ynni a Helen James o Brifysgol Glyndŵr gyda'r anrhydedd

"Rydym yn hynod o falch o'u cael yn rhan o'r academi," ychwanegodd.

Fe ddywedodd Yr Athro Helen James, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, eu bod yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd am ansawdd uchel eu darpariaeth ym maes niwclear.

"Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymroddedig i gefnogi diwydiant drwy ddarparu graddedigion sy'n barod i gyfrannu i'r gweithle.

"Rydym yn falch o allu cryfhau ein cefnogaeth i'r graddedigion a rhwydwaith o gyflogwyr drwy aelodau o'r academi."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.