Roger Speed yn galw am gefnogaeth i Chris Coleman

Roger a Carol Speed gyda Chris Coleman yn ystod y gêm deyrnged i Gary Speed Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Roger Speed yn galw ar gefnogwyr Cymru i gefnogi Chris Coleman

Mae tad Gary Speed wedi galw ar gefnogwyr Cymru i uno y tu cefn i'r rheolwr Chris Coleman ar gyfer gemau pwysig yn erbyn Yr Alban a Croatia.

Cafodd Coleman ei benodi i'r swydd ym mis Ionawr wedi marwolaeth Speed.

Ond mae Coleman wedi colli pob un o'r pedwar gêm mae o wedi bod yng ngofal y tîm.

"Mae angen cefnogi Chris Coleman, er fy mwyn i a Gary, plîs," meddai Roger Speed yn ystod cinio blynyddol Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.

"Fyddwn i ddim yn hoffi'r swydd, i gymryd drosodd oddi wrth Gary oherwydd bod Gary wedi gwneud gwaith mor arbennig.

"Rwy'n teimlo dros Chris."

'Wrth yr awennau'

Fe wnaeth Coleman etifeddu tîm oedd wedi ennill pedair gêm allan o bump tua diwedd 2011.

Mae Cymru wedi colli pump gêm ers marwolaeth Speed ym mis Tachwedd 2011.

Mae hynny'n cynnwys colli i Wlad Belg a Serbia yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Ond dywed Mr Speed y dylai Coleman, 42 oed, barhau wrth yr awenau.

"Mae rhai o gefnogwyr Cymru yn gallu bod yn ddiamynedd," ychwanegodd Mr Speed.

"Does 'na ddim lles i roi'r sac iddo.

"Mae'n rhaid ei gefnogi.

"Roedd Gary a Chris yn chwarae gyda'i gilydd ac yn ffrindiau.

"Dwi'n dymuno'r gorau i Chris."

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener cyn teithiio i Croatia ddydd Mawrth.

Carfan Cymru: v. Yr Albana Croatia ar Hydref 12 a 16.

Golgeidwaid: Jason Brown (Aberdeen), Lewis Price (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers).

Amddiffynwyr: Darcy Blake (Crystal Palace), Ben Davies (Abertawe), Jazz Richards (Abertawe), Chris Gunter (Reading), Lewin Nyatanga (Bristol City), James Wilson (Bristol City), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe).

Canol cae: Joe Allen (Lerpwl), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland).

Blaenwyr: Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Simon Church (Reading), Steve Morison (Norwich), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Craig Davies (Barsley).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.