Cwmni yn agor ar hen safle Bosch

Safle Bosch ym Meisgyn
Image caption Symudodd Bosch o Fesigyn yn 2011

Mae cwmni peirianyddol, fydd yn cynhyrchu cyfarpar gofal iechyd ar hen safle ffatri Bosch yn ne Cymru, wedi agor eu ffatri yn swyddogol.

Fe wnaeth Renishaw, sy'n cynhyrchu offer mesur cynnyrch diwydiannol, brynu'r safle ym Meisgyn fis Gorffennaf 2011, pan roddodd Bosch y gorau i gynhyrchu yno.

Ar ei anterth roedd Bosch, cwmni o'r Almaen, sy'n cynhyrchu offer peirianyddol, yn cyflogi 1,500.

Ar hyn o bryd mae Renishaw, cwmni o Sir Gaerloyw, yn cyflogi tua 20 o bobl.

Dywedodd llefarydd eu bod yn gobeithio symud mwy o waith cynhyrchu'r cwmni i Feisgyn yn y dyfodol.

Penderfyniad Bosch i gau'r safle oedd un o ergydion caletaf i economi Cymru yn ystod y dirwasgiad presennol.

Collodd tua 900 o weithwyr eu gwaith wrth i Bosch benderfynu adleoli i Hwngari.

Daeth y penderfyniad i gau yn sgil penderfyniad cynharach yn 2008 i roi'r gorau i gyflogi tua 600 o weithwyr contract.

Mae Renishaw yn cyflogi dros 3,000 o bobl, yn bennaf mewn pum safle yn Sir Gaerloyw.

Yn ogystal ag offer sy'n cael eu defnyddio mewn deintyddiaeth a llawdriniaeth i'r ymennydd, mae'r cwmni hefyd yn cynhyrchu offer ar gyfer injans jet a thyrbinau gwynt.

Mae'r rhan fwyaf o'u cynnyrch yn cael eu hallforio.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.