Cyflogau ffermwyr yn cael sylw yn y Cynulliad

Mick Antoniw
Image caption Bydd Mick Antoniw yn codi'r mater yn y Senedd ym Mae Cymru

Mae Aelod Cynulliad wedi rhybuddio y bydd dros 13,000 o weithwyr tir yng Nghymru yn colli arian a diogelwch mewn gwaith pe bai corff sy'n gosod eu cyflogau yn cael ei ddiddymu.

Mae Mick Antoniw AC Llafur Pontypridd wedi dweud yn y Cynulliad y bydd dileu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yn arwain at fwy o dlodi mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Llywodraeth San Steffan y byddai hawliau'r gweithwyr dan sylw yn cael eu gwarchod gan yr isafswm cyflog.

Mae disgwyl i DEFRA, adran amaeth San Steffan, wneud penderfyniad terfynol ynglŷn â dyfodol y Bwrdd yn y dyfodol agos.

Cafodd y bwrdd, sy'n gorff annibynnol, ei sefydlu gan Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 1948.

Ym mis Gorffennaf 2010 cyhoeddod Llywodraeth San Steffan fwriad i gael gwared ar y bwrdd.

Ond ym marn Mr Antoniw, mi fydd gwneud i ffwrdd â'r bwrdd yn golygu y bydd sefyllfa gyflogaeth y gwan "hyd yn oed yn fwy bregus".

Oes arall

Amlinellodd ei wrthwynebiad mewn trafodaeth fer yn y Cynulliad ddydd Mercher.

"Os nad yw'r bwrdd yn cael ei gadw yng Nghymru mae yna bryder y bydd miloedd o weithwyr yn wynebu tlodi wrth i gyflogau gael eu cwtogi'n sylweddol, gan fod y fframwaith oedd yn eu diogelu yn diflannu."

Mae undeb yr NFU wedi croesawu'r bwriad, gan ddweud fod y strwythur gyflogau yn perthyn i oes arall.

Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru eisoes wedi dweud bod angen cadw'r strwythur cyflogau.

Mae'r mesur i ddiddymu'r bwrdd yn mynd drwy'r Senedd yn San Steffan ar hyn o bryd.

'Rhyddhau'

Dywedodd llefarydd ar ran DEFRA: "Mae deddfau sy'n gosod cyflogau amaethyddol yn dyddio nôl 60 mlynedd ... maen nhw'n anodd eu deall a ddim yn gymwys i batrymau gwaith yr oes hon.

"Byddai newid y gyfraith yn rhyddhau nifer o ffermydd bychain rhag baich diangen.

"Byddai gweithwyr amaethyddol, fel gweithwyr eraill, yn cael eu hamddiffyn gan ddeddfwriaeth cyflogaeth isafswm."

Mae undeb Unite wedi annog pobl i arwyddo deiseb ar y we i fynegi eu gwrthwynebiad.

Maen nhw'n darogan y bydd gweision fferm yng Nghymru, yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio yn y sector garddwriaeth, yn colli rhwng hyd at £265 mewn cyflog salwch os bydd y bwrdd yn mynd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.