Apelio am wybodaeth am ddyn o Gaergybi sydd heb gael ei weld ers dyddiau

Eric Driver Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Cafodd Eric Driver ei weld tua 1pm ddydd Gwener

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am gymorth y cyhoedd wrth geisio dod o hyd i ddyn 46 oed o Ynys Môn.

Cafodd Eric Owen Driver o Gaergybi ei weld ddiwethaf ar Lain Cyttir yn ardal Kingsland o'r dref tua 1pm ddydd Gwener.

Mae'n 5 troedfedd 10 modfedd o daldra ac o faint canolig.

Mae ganddo wallt byr llwyd ac yn gwisgo sbectol. Y gred yw ei fod yn gwisgo siaced felen fel un criwiau brys, jîns glas a bŵts brown.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn poeni amdano ac annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.