Facebook: Carcharu dyn o Gaerdydd am annog trais

Logo Facebook Image copyright Reuters
Image caption Yn wreiddiol, roedd wedi gwadu rhoi gwybodaeth ar wefan Facebook

Mae dyn 24 oed wedi cael ei garcharu am fwy na thair blynedd a hanner am geisio annog trais yng nghanol Caerdydd yn ystod cyfnod y terfysgoedd yn Lloegr.

Yn llys y Goron Caerdydd roedd Anthony Gristock o'r ddinas wedi cyfaddef defnyddio gwefan gymdeithasol Facebook i sefydlu grŵp o'r enw Looting Cardiff Mash Up Queen Street.

Yn wreiddiol, roedd wedi gwadu rhoi gwybodaeth ar wefan Facebook fyddai wedi annog neu helpu pobl i greu anrhefn dreisgar yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Cafodd dros 3,000 eu harestio mewn cysylltiad â'r terfysg yn nhrefi a dinasoedd Lloegr, gan gynnwys Llundain, Birmingham a Manceinion bron i flwyddyn yn ôl.

Roedd mis o'i ddedfryd yn sgil y ffaith nad oedd yn bresennol mewn gwrandawiad blaenorol.