Cyhuddo pump o enwi merch a dreisiwyd gan Ched Evans

Ched Evans Image copyright Other
Image caption Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio

Mae pump o bobl wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â datgelu enw'r ddynes gafodd ei threisio gan y pêl-droediwr Ched Evans.

Erbyn hyn mae 'na naw o bobl wedi cael eu cyhuddo yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Maen nhw wedi eu cyhuddo o gyhoeddi manylion ar y we a allai arwain at neu wybodaeth am y dioddefwr.

Cafodd Evans ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill ar ôl ei gael yn euog o dreisio dynes 18 oed mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.

Y pump diweddara i'w cyhuddo yw Gemma Thomas, 18 oed o'r Rhyl; Hollie Price, 25 oed o Brestatyn a Shaun Littler, 22 oed; Paul Devine, 26 oed a Daniel Cardwell, 25 oed, y tri o Sheffield.

Dywedodd Jim Brisbane, prif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, bod digon o dystiolaeth i'w cyhuddo.

"Mae'r pump wedi eu rhydau ar fechnïaeth yr heddlu ac fe fyddan nhw'n ymddangos gerbron Ynadon Prestatyn ar Dachwedd 5."

'Dim atgof'

Cafodd Benjamin Davies, 27 oed o'r Rhyl a Michael Ashton, 21 oed o Landdulas eu cyhuddo am ryddhau gwybodaeth ar Twitter a allai arwain at adnabod y dioddefwr.

Maen nhw hefyd wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn y llys ar Dachwedd 5.

Dydd Llun cafodd Dominic Green, 23 oed o'r Rhyl ac Alexandra Hewitt, 24 oed o Frychdyn, eu cyhuddo o gyhoeddi negeseuon yn datgelu pwy oedd y dioddefwr ar Facebook.

Roedd Evans wedi cyfadde' i gael rhyw efo'r ddynes 19 oed ond dywedodd y ddynes wrth y llys nad oedd ganddi unrhyw atgof o'r digwyddiad.

Yn ôl yr erlyniad roedd hi wedi meddwi gormod i gytuno i gael rhyw.

Cafodd nifer o bobl eu harestio wedi'r achos ar ôl i enw'r dioddefwr ymddangos ar wefannau cymdeithas.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.