April: Rhieni'n cwrdd â thimau chwilio ym Machynlleth

  • 11 Hydref 2012
Chwilio am April
Uwcharolygydd Ian John: Y chwilio'n parhau gan fod 'angen dilyn sawl trywydd'.

Mae rhieni April Jones wedi bod yn cwrdd ag aelodau'r timau sy'n chwilio am eu merch bump oed.

Aeth Coral a Paul Jones i ganolfan y chwilio ym Machynlleth, Powys, ddydd Mercher.

Dywedodd y ddau eu bod yn diolchgar iawn am waith y timau.

Fe welwyd April 10 diwrnod yn ôl tra oedd hi'n chwarae ger ei chartref yn y dre'.

Mae Mark Bridger o Fachynlleth wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, cipio a gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gael gwared ar gorff neu guddio corff.

Roedd y dyn 46 oed gerbron Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher drwy gyswllt fideo.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Ian John, sy'n arwain y chwilio, y byddai'r chwilio'n parhau gan fod angen dilyn sawl trywydd.

Ychwanegodd fod y symbyliad i ddod o hyd iddi yn parhau'n gryf ymhlith y rhai sy'n chwilio.

"Mae Gwylwyr y Glannau yn chwilio'r afon o Borth i Dywyn bob diwrnod ac mae timau chwilio dan y dŵr yn chwilio'r aber," meddai.